Dyw enw Gwennan Harries ddim wedi ei gynnwys yng ngharfan tîm pêl-droed merched Prydain ar gyfer y Gemau Olympaidd.
Does dim un Gymraes yn y garfan o 18, sy’n cynnwys 16 o Loegr a dwy o’r Alban.
Bydd dwy gêm yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd.
Mae Harries wedi beirniadu’r hyfforddwraig Hope Powell, a ddywedodd y byddai’n dewis y garfan ar sail perfformiadau.
“Mae yna ambell farc cwestiwn dros hynny,” meddai.
“Mae yna nifer o chwaraewyr yn perfformio’n dda yn enwedig Jess Fishlock [chwaraewraig canol cae gydag Academi Bryste] sydd fwy na thebyg yn chwarae’r bêl-droed orau yn y Gynghrair [Uwchgynghrair Merched yr FA] ar hyn o bryd.
“Eto i gyd, rhaid i chi fwrw ati. Mae hi wedi gwneud y penderfyniadau felly rhaid i ni eu cefnogi nhw a gobeithio y byddan nhw’n ennill medal.
“Mae’n siom, ond does dim byd arall allen ni fod wedi’i wneud.”
Roedd Harries, sydd wedi ennill 53 o gapiau dros ei gwlad, wedi gobeithio cael chwarae yn y Gemau.
“Rwy’n credu bod rhaid i chi fod yn hyderus gyda’r polisi dethol, yn enwedig pan ddywedodd hi ei bod yn dewis ar sail perfformiadau,” meddai Harries.
“Ond mae safon y garfan yn uchel, allwch chi ddim dadlau gyda hynny.
Bydd gêm gyntaf merched Cymru ar Orffennaf 25, ddeuddydd cyn y seremoni agoriadol.
Byddan nhw’n herio Cameroon ar Orffennaf 28, a bydd un o gemau rownd yr wyth olaf yn Stadiwm y Mileniwm ar Awst 3.