Andy Murray
Bydd Andy Murray yn herio’r Rwsiad Nikolay Davydenko yn Wimbledon yn ddiweddarach heddiw.

Hwn yw’r degfed tro y mae’r Albanwr wedi wynebu Davydenko, ond y tro cyntaf i’r ddau ddod benben â’i gilydd ar laswellt.

Bydd y ddau yn cwrdd ar y Cwrt Canol am 5 o’r gloch.

Roedd Davydenko yn arfer bod yn y trydydd safle yn y byd, ond bellach mae’n rhif 47 yn rhestr y detholion.

Yn ei flog ar y we, dywedodd Murray, “Rwy’n teimlo’n grêt, mae’r hyfforddi wedi mynd yn dda ac rwy’n ysu i ddechrau.”

Mae Murray wedi cael tymor siomedig hyd yn hyn, wedi iddo golli yn rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc, a chael ei guro yn rownd gyntaf twrnament Queen’s gan y Ffrancwr Nicolas Mahut.

Bydd gan Murray ysgogiad ychwanegol yn yr ornest yn y rownd gyntaf, wedi i’w wrthwynebydd ddweud cyn y twrnament nad oedd gan yr Albanwr fawr o obaith o ennill teitl Camp Lawn yn Wimbledon eleni.

Pe bai’n llwyddo i ennill y gystadleuaeth eleni, Murray fyddai’r dyn cyntaf o Brydain i wneud hynny ers Fred Perry ym 1936.