Stadiwm Nantporth ym Mangor
Mae Clwb Pêl-droed Dinas Bangor wedi cael ei feirniadu am y penderfyniad i godi pris tocynnau ar gyfer gêm ragbrofol Cynghrair Europa yn erbyn FC Zimbru fis nesaf.

Bydd tocyn i oedolyn ar gyfer y gêm yn costio £17, a £10 i blant hyd at 16 oed.

Mae’r cynghorydd lleol Nigel Pickavance, a chefnogwr brwd i dîm Bangor, wedi dweud fod y cynnydd mewn pris yn “annheg ac yn anghyfiawn.”

“Dw i’n gobeithio y gwnaiff y clwb newid ei meddyliau ar hyn,” meddai Nigel Pickavance. “Dw i wedi siarad efo lot o rieni sy’n gobeithio mynd i’r gêm efo’u plant, ond byddai hynny’n gallu costio dros chwe deg punt iddyn nhw.”

“Mae’n iawn i rywun fel fi sy’n gweithio, ond be’ am y plant sydd wedi bod mor deyrngar i’r clwb dros y blynyddoedd?” ychwanegodd Nigel Pickavance.

“Mae’r cynnydd mewn prisiau yn mynd i effeithio’n wael ar y dorf heb os.”

Mae pris tocyn arferol yn Nantporth yn costio £8 i oedolion a thocynnau i blant yn £2.

Yn wreiddiol, dim ond plant hyd at 12 oed oedd yn gymwys ar gyfer y tocynnau £10. Ond yn dilyn trafodaethau’r bore ma, mae’r clwb wedi penderfynu newid yr oedran i 16 oed.

Dyma fydd y tro cyntaf i gêm Ewropeaidd gael ei chynnal ym Mangor ers 14 mlynedd.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae gemau Bangor wedi gorfod cael eu symud i’r Cae Ras yn Wrecsam gan nad oedd cae blaenorol y dinasyddion, Ffordd Farrar, yn cyrraedd y meini prawf angenrheidiol.

Symudodd y clwb o Ffordd Farrar i Nantporth, ar lan Afon Menai, yn gynharach eleni.

Mae’r gêm yn erbyn FC Zimbru ar 5 Gorffennaf a’r gic gyntaf am 7.45yh.