Edwards ar y chwith
Os am fuddugoliaeth gynta’ oddi cartref yn Awstralia ers y 196oau, mae’n rhaid i’r Cymry osgoi ildio mwy na 18 o bwyntiau.

Dyna rybudd hyfforddwr yr amddiffyn i’r chwaraewyr ar drothwy’r ail brawf yn Melbourne yfory.

 Fe ildion nhw 27 pwynt tra’n sgorio 19 yn y prawf cynta’ a gollwyd yn Brisbane, ac mae Shaun Edwards wedi galw am daclo cadarnach ac yn disgwyl gweld gwell sioe yfory.

“Rydan ni am fod yn agosach at gyflymdra’r gêm y tro hwn,” meddai.

“Mi fydd gan Sam Warburton ychydig yn fwy o hyder wedi iddo chwarae ei gêm gyntaf mewn 11 wythnos, ac ni ddyla hi fod mor boeth yn Melbourne ag yr oedd hi yn Brisbane,” meddai.

“Mae’n anodd cadw tîm Tri Nations i lai nag 20 pwynt, ond os fedrwn ni eu cyfyngu nhw i rhwng 15-18 o bwyntiau fe fydd ganddon ni gyfle gwych i ennill y gêm.”

 Priestland yn cadw’i le

Er bod yr hyfforddwr dros dro Rob Howley wedi cadw’r ffydd gyda Rhys Pritesland, er nad yw’r maswr wedi bod yn tanio ers sbel, mae pedwar newid i’r tîm heriodd Awstralia yn y prawf cyntaf.

Mae’r wynebau newydd yn golygu bod llawer mwy o brofiad yn y tîm, gyda Matthew Rees yn ôl yn fachwr, Alun Wyn Jones yn lle Luke Charteris yn yr ail reng a Ryan Jones yn dod i safle’r wythwr yn lle Toby Faletau sydd wedi ei anafu.

Mae gan y tri gyfanswm o fwy na 180 o gapiau rhyngddyn nhw ond fe fydd y newid arall, Ashley Beck, yn ennill ei gap llawn cynta’.

Mae’n disodli Scott Williams yn safle canolwr ar ôl dod ymlaen yn ail hanner y prawf cyntaf.