Geraint Thomas, un o sêr Tim Beicio Prydain Fawr
Fe fydd Tîm Prydain Fawr yn defnyddio felodrôm Casnewydd ar gyfer eu paratoadau munud ola’ ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Fe ddaeth y cadarnhad heddiw gan Gyngor Dinas Casnewydd.

Mae trac beicio Casnewydd wedi cael ei ddefnyddio cyn hyn gan Dîm Prydain Fawr – ar gyfer gemau Athen 2004 a Beijing yn 2008.

Fe fydd y tîm yn cyrraedd Casnewydd tua phythefnos cyn y bydd Gemau Llundain yn agor, ac fe fyddan nhw’n aros yno er mwyn gwneud eu paratoadau dwys cyn i’r cystadlu ddechrau o ddifri’.

Meddai’r Cynghorydd Debbie Wilcox, aelod o gabinet Cyngor Dinas Casnewydd sydd â chyfrifoldeb am hamdden a diwylliant:

“Mae’r cadarnhad yma yn newydd ffantastig i Gasnewydd! Fe fydd cael yr athletwyr elît yn paratoi ar gyfer pinacl eu gyrfaoedd, yn dangos cystal ydi cyfleusterau Casnewydd.

“Mae hefyd yn dangos beth yw manteision buddsoddi mewn cyfleusterau chwaraeon. Gobeithio y bydd Casnewydd yn chwarae rhan fechan yn llwyddiant y tîm beicio yng ngemau Llundain 2012.”