Logo newydd y clwb
Mae perchennog clwb pêl-droed Caerdydd wedi cadarnhau y prynhawn yma ei fod am barhau i fuddsoddi arian yn yr Adar Gleision.
Roedd pryder yng Nghaerdydd fod Vincent Tan a’i gyd-berchnogion o Malaysia wedi pwdu ar ôl yr ymateb chwyrn i’r newyddion fod y clwb am chwarae mewn coch yn hytrach na glas y tymor nesaf, ond mae Vincent Tan heddiw wedi datgelu mwy o fanylion am ei fuddsoddiad yn y clwb ac wedi dweud y bydd y newid i grysau coch yn rhoi “egni a ffocws” i glwb Caerdydd.
Dywedodd Vincent Tan y bydd yn gwario £25m ar gynnal y clwb a’r garfan dros y flwyddyn nesaf, ac yn gwario £10m ychwanegol er mwyn ceisio setlo’r ddyled gyda chwmni Langston.
Addawodd hefyd y bydd yn gwario £10m ar y cyfleusterau ymarfer a £12m ar gynyddu maint Stadiwm Dinas Caerdydd gan 8,000 o seddi, i 35,000.
Yn ogystal a’i fuddsoddiad blaenorol o £41m dywed Vincent Tan y bydd ei fuddsoddiad yn dod i £100m yn gyfangwbl.
“Eich clwb chi yw hwn”
Dywed Vincent Tan nad oes modd i glwb Caerdydd barhau gyda’r model busnes presennol a’i fod yn bryd “symud at y cymal nesaf, un a fydd yn anodd i’w lyncu i rai o achos y newid yn lliw’r crysau ond a fydd yn gyffrous i’r mwyafrif sydd eisiau gweld llwyddiant, sefydlogrwydd a llewyrch ynghlwm gyda chlwb pêl-droed Caerdydd.
“P’un ai bod pobol yn cytuno gyda’r penderfyniad ai peidio, rwy’n grediniol fod newid lliw’r crys yn mynd i roi ffocws ac egni newydd i’r clwb, a bydd yn cysylltu symboliaeth y lliw coch gyda’r ddraig goch, ac yn cadw’r elfen aderyn glas sydd wedi bod yno cyhyd.
“Mae’r rhain yn cyfleu delweddau pwerus ym marchnadoedd Cymru ac Asia ac rwy’n barod i gefnogi’r weledigaeth gyda’r buddsoddiad rydym ni wedi manylu uchod, sydd gobeithio yn dangos fy ymrwymiad a fy ffydd yn y strategaeth.
“Does dim rheswm i unrhyw gefnogwr deimlo ei fod yn cael ei adael allan. Eich clwb chi fydd y clwb yma bob amser,” pwysleisiodd Vincent Tan.