Rhys Priestland
Mae Cymru wedi gwneud pedwar newid ar gyfer y gêm brawf nesa’ yn erbyn Awstralia ddydd Sadwrn.

Ond roedd yr hyfforddwr tros dro, Rob Howley, yn amddiffyn y penderfyniad i gadw Rhys Pirestland yn safle’r maswr, er gwaetha’ galwadau am roi James Hook yn ei le.

Yn ôl Howley, y prawf cynta’ yn erbyn Awstralia oedd gêm amddiffynnol orau Priestland yn y crys coch ac roedden nhw wedi bod yn gweithio’r wythnos yma ar wella cywirdeb ei gicio.

Mwy o brofiad

Mae’r newidiadau’n golygu bod llawer mwy o brofiad yn y tîm, gyda Matthew Rees yn ôl yn fachwr, Alun Wyn Jones yn lle Luke Charteris yn yr ail reng a Ryan Jones yn dod i safle’r wythwr yn lle Toby Faletau sydd wedi ei anafu.

Mae gan y tri gyfanswm o fwy na 180 o gapiau rhyngddyn nhw ond fe fydd y newid arall, Ashley Beck, yn ennill ei gap llawn cynta’.

Mae’n disodli Scott Williams yn safle canolwr ar ôl dod ymlaen yn ail hanner y prawf cyntaf.

Mae’r bachwr Ken Owens yn colli’i le yn y garfan ond mae Justin Tipuric, blaenasgellwr y Gweilch, ar y faint yn sgil yr anaf i Faletau.

Dyma’r tîm:

Olwyr:

Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Ashley Beck, George North.

Haneri:

Rhys Priestland, Mike Phillips.

Blaenwyr:

Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Bradley Davies, Alun Wyn Jones, Dan Lydiate, Sam Warburton (Captain), Ryan Jones

Eilyddion:

Richard Hibbard, Paul James, Luke Charteris, Justin Tipuric, Rhys Webb, James Hook, Scott Williams.