Matthew Morgan yn erbyn Samoa neithiwr. Llun: IRB
Gwobr Cymru dan 20 am guro Seland Newydd a gorffen ar frig eu grŵp ym mhencampwriaeth Rygbi Dan 20 y Byd yw cwrdd â Seland Newydd am yr ail dro.
Neithiwr chwalodd Cymru Samoa o 74-3 a ddydd Gwener diwethaf llwyddon nhw i guro Seland Newydd 9-6, yn groes i bob disgwyl. Nid oedd Seland Newydd wedi colli gêm erioed ym mhencampwriaeth rygbi dan 20 y byd ond yn sgil y fuddugoliaeth Cymru nawr yw’r detholyn cyntaf.
Dywedodd hyfforddwr Cymru, Danny Wilson, fod ei dîm yn hyderus cyn cwrdd â’r Babi Blacs yn y rownd gyn-derfynol ddydd Sul.
“Rydyn ni wedi curo Seland Newydd unwaith felly ni wedi dod dros y rhwystr meddyliol.
“Roedd rhediad di-guro Seland Newydd wedi rhoi rhyw statws fytholegol iddyn nhw ond mae hynna wedi diflannu nawr.”
Yn y gêm gyn-derfynol arall mae’r wlad sy’n cynnal y bencampwriaeth eleni, De Affrica, yn cwrdd â’r Ariannin.