Un o chwaraewyr newydd Port Talbot, Daniel Sheehan
Wrth i ffenestr drosglwyddo Uwch Gynghrair Cymru agor ddoe, dyw Port Talbot ddim wedi gwastraffu unrhyw amser, gan arwyddo 4 o chwaraewyr eu cymdogion, Lido Afan.

Mae’r Gwŷr Dur wedi bachu llofnod yr amddiffynwyr Liam Hancock a Daniel Sheehan yn ogystal â’r chwaraewr hyblyg Carl Payne a’r ymosodwr Daniel Thomas.

Mae Thomas yn dychwelyd i Bort Talbot am yr ail waith ar ôl tymor llwyddiannus gyda’r clwb yn 2009/10.

Mae Liam Hancock hefyd yn dychwelyd i’r clwb wedi wyth mlynedd ar ôl treulio cyfnodau gyda Chaerfyrddin a Chastell Nedd cyn symud i Lido.

Cafodd cyn gefnwr Abertawe, Sheehan, dymor arbennig ar Stadiwm Marstons llynedd gan chwarae ym mhob gêm, tra bod Payne hefyd wedi bod yn aelod allweddol o dîm Lido Afan llynedd hefyd.

“Mae Tref Port Talbot yn falch iawn i allu cadarnhau arwyddo pedwar chwaraewr newydd ar gyfer tymor nesaf” meddai’r datganiad swyddogol gan y clwb.