Huw Jenkins
Mae disgwyl bellach mai Michael Laudrup fydd rheolwr nesa’ clwb pêl-droed Abertawe.
Cyn chwaraewr rhyngwladol Denmarc yw’r ffefryn clir erbyn hyn, yn ôl papur lleol y South Wales Evening Post.
Mae disgwyl i Gadeirydd y clwb, Huw Jenkins, ddod yn ôl o wyliau a gwneud cyhoeddiad swyddogol cyn diwedd yr wythnos.
Er nad yw wedi aros yn y swyddi’n hir, mae Laudrup wedi cael llwyddiant gyda chlybiau Getafe a Mallorca ym mhrif gynghrair Sbaen ac roedd yn un o chwaraewyr gorau Ewrop yn ei ddydd, gyda chlybiau fel Barcelona a Real Madrid.
Yn y traddodiad
Mae ganddo enw am chwarae’r un math o gêm basio ag y mae Abertawe wedi ei datblygu yng nghyfnodau Roberto Martinez a Brendan Rodgers.
Un o’i sialensau cynta’ fydd ceisio sicrhau bod y chwaraewr canol cae Gylfi Sigurdsson yn dod i’r Liberty am fwy na £6 miliwn.
Yn ôl y papur lleol, mae’r clwb bron ag anobeithio ynglŷn â’i ddenu ar ôl i Rodgers fynd i Lerpwl – y gobaith yw y bydd enw Michael Laudrup yn ddigon iddo ddod ar ôl treulio hanner tymor ar fenthyg yn Abertawe.