Mae Awstralia wedi enwi’r union un tîm ar gyfer yr ail brawf yn erbyn Cymru ym Melbourne ddydd Sadwrn.

Mae’r hyfforddwr, Robbie Deans, wedi enwi’r union un 15 ag a ddechreuodd yn y fuddugoliaeth yn erbyn Cymru fore Sadwrn diwethaf.

Yr unig amheuaeth yw honno am brop y Waratahs, Sekope Kepu, a gafodd anaf i’w fraich yn y prawf cyntaf – fe fydd yn cael prawf ffitrwydd cyn y penwythnos.

Yn y cyfamser mae hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley’n dal i ofidio am ffitrwydd yr olwyr George North a Scott Williams.

Anafodd North ei goes yn hanner cyntaf y prawf cyntaf tra bod Williams wedi derbyn hergwd hegar i’w wyneb yn agos at ddiwedd y gêm.

Tîm Awstralia ar gyfer yr ail brawf:

A Ashley-Cooper; C Vuna, R Horne, P McCabe, D Ioane; B Barnes, W Genia; B Robinson, T Polata Nau, S Kepu, R Simmons, N Sharpe, S Higginbotham, D Pocock (c), W Palu

Eilyddion: S Moore, B Alexander, D Dennis, M Hooper, N White, A Faingaa, M Harris.