Mae asgellwr mawr Cymru Alex Cuthbert wedi penderfynu aros  gyda’r Gleision – am flwyddyn arall beth bynnag.

Roedd sôn fod rhai o glybiau ariannog Ffrainc am geisio denu’r asgellwr tal, ond mae Cuthbert wedi penderfynu llofnodi cytundeb newydd blwyddyn o hyd.

“Ces i sawl cynnig o du hwnt i Gymru ac ar ôl ystyried fy opsiynau gyda fy nheulu a ffrindiau a des i’r casgliad mai’r opsiwn gorau yw aros gyda’r Gleision a dangos fy nheyrngarwch i’r rhanbarth, yr hyfforddwyr a’r cefnogwyr” meddai’r cyn-fyfyriwr o Gaerloyw a ddewisodd chwarae dros wlad ei fam.

“Roedd chwarae dros Gymru yn rhan bwysig o fy mhenderfyniad i aros gyda’r Gleision a bydd chwarae dros y rhanbarth yn gyson yn cryfhau fy siawns o gadw fy lle yn nhîm Cymru.

“Gyda bod Phil Davies yn cymryd drosodd yn Brif Hyfforddwr a’n bod ni’n symud nôl i Barc yr Arfau mae’n gyfnod cyffrous iawn i’r Gleision” meddai.