Steve Shingler
Mae Cyngor y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi dweud na all canolwr Gwyddelod Llundain Steve Shingler chwarae i unrhyw wlad arall ar wahân i Gymru.

Roedd pwyllgor rheolau’r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol wedi dod i’r un casgliad yn gynharach eleni ond penderfynodd undeb rygbi’r Alban apelio yn erbyn y penderfyniad.

Cafodd Steve Shingler ei eni a’i fagu yng Nghymru a daw ei fam o’r Alban. Mae wedi chwarae dros Gymru dan 20, sef ail dim swyddogol Cymru, ar 14 achlysur.

Chwaraeodd ei frawd Aaron Shingler dros Gymru yn erbyn yr Alban ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni .

“Wedi ei rwymo i Gymru”

Mewn datganiad, dywedodd y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol

“Mae’r Cyngor, ar ôl ystyried y ffeithiau a chlywed tystiolaeth gan gynrychiolwyr cyfreithiol undebau’r Alban a Chymru, wedi gwrthod yr apêl ac yn cefnogi penderfyniad y Pwyllgor Rheolau.

“Mae’r Cyngor wedi penderfynu fod Steven Shingler wedi ei rwymo i Gymru yn ôl rheol 8 yr Bwrdd Rygbi ac felly’n anghymwys i gynrychioli undeb arall.”