James Hook
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi enwi James Hook yn safle’r maswr ar gyfer y gêm yn erbyn yr Alban yn Murrayfield ddydd Sadwrn.

Mae chwaraewr amryddawn y Gweilch yn symud o safle’r cefnwr i’r crys rhif deg am y tro cyntaf ers 2009.

Fe fydd Lee Byrne, a oedd ar y fainc yn erbyn Lloegr, yn dychwelyd i’r tîm yn safle’r cefnwr.

Mae Stephen Jones, sydd wedi ennill 96 cap dros Gymru, ar y fainc ar ôl iddo anafu ei wddf wrth chwarae yn erbyn Lloegr.

“Mae gan James gyfle i ddangos ei ddoniau. Mae’n rywfaint o risg am nad yw wedi dechrau yn safle’r maswr y tymor yma,” meddai Warren Gatland.

“Ond roedd yn benderfyniad haws i’w wneud ar ôl i anaf Stephen, sydd wedi cyfyngu ar beth y mae wedi gallu ei wneud yn yr ymarferion.”

 

Dewisiadau eraill

Mae wythwr y Gweilch, Ryan Jones, yn cymryd lle Andy Powell yn y rheng ôl yn dilyn anaf i ysgwydd chwaraewr Wasps.

Mae Morgan Stoddart yn cadw ei le ar yr asgell er iddo dorri asgwrn yn ei law yn erbyn Lloegr, ond fe fydd yn wynebu prawf ffitrwydd yn hwyrach yn yr wythnos.

Mae mewnwr Sale, Dwyane Peel, allan o’r garfan yn gyfan gwbl ar ôl iddo anafu ei glun. Mae Tavis Knoyle o’r Scarlets yn cymryd ei le.

Fe allai chwaraewr y Scarlets, Josh Turnbull, ennill ei gap gyntaf dros Gymru ar ôl cael ei gynnwys ymysg y blaenwyr sydd ar y fainc.

 

Carfan Cymru

Cefnwyr- Lee Byrne (Gweilch), Morgan Stoddart (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Jon Davies (Scarlets), Shane Williams (Gweilch ), James Hook (Gweilch),  Mike Phillips (Gweilch ).

Blaenwyr- Paul James (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets), Craig Mitchell (Gweilch), Bradley Davies (Gleision), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Dan Lydiate (Dreigiau ), Sam Warburton (Gleision), Ryan Jones (Gweilch).

Eilyddion- Richard Hibbard (Gweilch ), John Yapp (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Josh Turnbull (Scarlets), Tavis Knoyle (Scarlets), Stephen Jones (Scarlets), Rhys Priestland (Scarlets).