Warren Gatland
Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, wedi wfftio’r awgrym y bydd yn diswyddo Warren Gatland.
Roedd buddugoliaeth 26-19 Lloegr yn Stadiwm y Mileniwm nos Wener ddiwethaf yn golygu nad ydi Cymru wedi ennill gêm ers diwedd y bencampwriaeth ddiwethaf.
Fe arwyddodd Warren Gatland gytundeb pedair blynedd newydd ym mis Tachwedd sy’n golygu y bydd yn parhau’n hyfforddwr Cymru nes Cwpan Rygbi’r Byd 2015.
Dywedodd Roger Lewis ei fod yn credu y dylai Gatland gael cyfle i wella pethau.
“R’yn ni’n credu bod y bobl iawn gyda ni sydd a’r sgiliau a phrofiadau priodol,” meddai Roger Lewis.
“Mae ein hyfforddwyr yn gwybod beth sydd ei angen er mwyn ennill Camp Lawn a phencampwriaethau Ewropeaidd yn ogystal â sut i wynebu colledion.
“Mae’n rhaid i ni adfer ein hunan barch cyn ennill parch gwledydd eraill, ac mae angen i bawb gymryd cyfrifoldeb am beth sydd wedi digwydd.
“Does neb yn gwneud esgusodion- mae angen bawb yn Undeb Rygbi Cymru symud ymlaen gyda’i gilydd.”