Arbenigwr rygbi Golwg360, Aled Price, sy’n gofyn lle nesaf i Gavin Henson…
Yn y diwedd roedd yn anochel, yndoedd?
Ar ôl dysgu bod Gavin Henson wedi camymddwyn … unwaith eto … doedd dim llawer o amheuaeth byddai’r Gleision yn cael gwared ohono.
Mewn gwirionedd, does dim llawer o syndod bod Henson unwaith eto wedi cyrraedd y penawdau am ei gampau bant o’r maes chwarae.
Rwy wedi fy nghythruddo braidd wrth i Henson ddwyn sylw pawb, gan olygu nad oes neb yn siarad am y rygbi a gafodd ei chwarae dros y penwythnos. Wedi dweud hynny, collodd 3 o’r 4 rhanbarth Cymreig, felly efallai bod hynny’n beth da!
Problemau yfed
Y tro yma mae’n ymddangos fel petai Gavin wedi cael gormod i yfed ar ôl i’r Gleision cael eu chwalu yng Nglasgow, a pharhau i yfed nes y daith adre ar yr awyren. Mae ei yrfa wedi’i chwalu gan ddigwyddiad oddi ar y cae, ond nid hwn yw’r tro cyntaf i alcohol fod yng nghanol ei drafferthion.
Ar ôl gêm yn erbyn yr Harlequins yn 2007 cafodd ei gyhuddo o fod yn swnllyd ar y trên adref. Yn 2009 roedd cyn chwaraewr y Gweilch mewn trwbl gyda’r heddlu ar ôl digwyddiad mewn tafarn yng Nghaerdydd.
Heb sôn wrth gwrs am gael ei wahardd gan y Gweilch gwpl o weithiau, ymladd efo cydchwaraewr yn Toulon, a’r hunangofiant a lwyddodd i gyffroi nifer o’i gydchwaraewyr.
Teg edrych tuag adref
O’n i’n methu credu’r ffaith bod Henson nawr yn 30 oed. Dylai fod ar dop ei gêm ers cwpl o flynyddoedd, ac efallai’n ganolog yn nhîm Cymru.
Mae wedi cael ei broblemau gydag anafiadau, ond does neb ganddo i’w feio ond fe’i hun am y ffaith nad yw wedi chwarae’n rheolaidd ers pedair blynedd. Ie, mae wedi methu anwybyddu’r cyfle i fyw bywyd seleb, ond mae’r peth sydd wedi gwneud Henson yn enwog yn y lle cyntaf, sef ei ddawn ar y cae, wedi diflannu’n llwyr mae’n ymddangos.
Mae’n teimlo’n rhyfedd i ddweud bod chwaraewr sydd wedi ennill dwy Gamp Lawn, ac wedi bod ar daith y Llewod heb gyrraedd eithaf ei allu. Yn anffodus, dyna’n union sydd wedi digwydd gyda Henson.
Dechreuodd popeth mor addawol wrth iddo gael ei enwi’n Chwaraewr Ifanc y Byd gan yr IRB yn 2001. Roedd yn ymddangos fel petai gan Gymru dalent unigryw. Yn wir, mae Henson wedi bod yn unigryw, ond yn anffodus, yn amlach na pheidio am y rhesymau anghywir.
Rhy onest
Rwy wastad wedi hoffi Henson. Fel y dywedais yn gynharach, roedd Gavin ambell waith yn rhy onest am ei gydchwaraewyr, ond roedd hefyd yn hollol onest amdano’i hun hefyd.
Ar ôl gêm hunllefus yn erbyn Iwerddon yn 2006 dywedodd ei fod yn teimlo’n hunanddinistriol. Gormod o felodrama? Heb os. Serch hynny, yn fy marn i, roedd yn chwa o awyr iach i glywed chwaraewr yn siarad amdano’i hun mewn modd mor agored. Neu efallai arwydd o’i anaeddfedrwydd?
‘Enigma’ yw’r gair gorau i ddisgrifio Gavin Henson yn fy nhyb i – rhywun oedd yn hollti barn. Nes i gefnogi fe trwy gydol ei absenoldeb a, lan i heddiw, ei ymgais i ddod nôl i chwarae’n gyson.
Does dim llawer fyddai’n well gen i weld na Gavin Henson yn holliach ac yn chwarae’n dda i Gymru. Nawr, mae fy amynedd wedi rhedeg allan, ac amynedd pawb arall hefyd.
Yn anffodus, mae Henson bob amser wedi dangos anaeddfedrwydd ac wedi ymddwyn yn blentynnaidd. Mae’r digwyddiad diweddar yn atgyfnerthu’r ffaith hon.
Ble nawr? Wy’n methu gweld tîm uchelgeisiol yn gamblo ar y train wreck o chwaraewr. Bydd tîm uchelgeisiol yng nghynghrair Lloegr neu ProD2 Ffrainc eisiau edrych arno? Efallai. Efallai mai hyn fydd diwedd ei yrfa. Os mai dyna fydd, does dim ond dau air sy’n dod i’r meddwl – gwastraff llwyr.