Rodney Parade
Mae Clwb Rygbi Caerloyw wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo cefnwr y Dreigiau, Martyn Thomas.

Mae Martyn Thomas, sy’n frodor o Landeilo, wedi chwarae dros 80 o weithiau i’r Dreigiau ers ymuno yn nhymor 2006-07, ac wedi cynrychioli Cymru yn y gêm 7-bob-ochr.

“Rwy wedi chwarae yn Kingsholm [maes Caerloyw] ddwywaith yn y blynyddoedd diwethaf ac er i fi fod yn nhîm y gwrthwynebwyr fe wnaeth yr awyrgylch gryn argraff arna i,” meddai’r chwarewr 24 oed.

Dywedodd prif hyfforddwr Caerloyw, Bryan Redpath, fod arwyddo Martyn Thomas yn rhoi cryfder i’w dîm yn safle’r cefnwr.

“Mae e’r fath o chwaraewr a fydd yn gallu ffitio mewn i’n steil ni o chwarae a ry’n ni’n edrych ymlaen at ei groesawu e dros yr haf”.