Speight - Sgoriwr dwy (llun o wefan y clwb)
Darlington 2–4 Wrecsam
Caeodd Wrecsam y bwlch ar Fleetwood ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth dros Darlington yn Arena Darlington nos Fawrth. Er i Darlington daro’n ôl i ddechrau wedi i Wrecsam fynd ddwy gôl ar y blaen fe sgoriodd y Dreigiau ddwy arall yn hwyr yn y gêm i ennill y gêm.
Peniodd Jake Speight Wrecsam ar y blaen funud cyn yr egwyl yn dilyn croesiad Johny Hunt a bu bron iddo ddyblu’r fantais funud yn ddiweddarach ond llwyddodd Jordan Pickford i arbed.
Roedd hi’n ddwy wedi 65 munud diolch i beniad Nathaniel Knight-Percival o gic gornel Stephen Wright.
Roedd y tri phwynt yn edrych yn sâff i’r Dreigiau wedi’r ail gôl ond tarodd Darlington yn ôl gyda dwy mewn dau funud. Daeth Neil Wainwright o hyd i Adam Rundle yng nghwrt chwech Wrecsam wedi 69 munud a churodd yntau Joslain Mayebi. Yna wedi 71 munud, unionodd Ryan Bowman gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi.
Ond yn ôl y daeth Wrecsam gyda dwy gôl hwyr i ennill y gêm. Croesodd Wright i’r cwrt cosbi bum munud o’r diwedd a pheniodd Mathias Pogba heibio Pickford i roi Wrecsam yn ôl ar y blaen. A sicrhaodd Speight y tri phwynt o’r smotyn yn yr amser a ganiateir am anafiadau wedi i Adrian Ciezlewicz gael ei lorio yn y cwrt cosbi.
Mae’r tri phwynt yn cau’r bwlch rhwng Wrecsam a Fleetwood ar y brig i chwe phwynt ac mae gan y Dreigiau un gêm wrth gefn o hyd.