Dan Lydiate
Roedd yn berfformiad tîm arbennig iawn gan Gymru ddydd Sadwrn ac fel chwaraeodd pawb eu rhan. Dyma farn Aled Price ar y perfformiadau unigol.
Leigh Halfpenny (7) – Gêm gadarn i Halfpenny yn y cefn. Ro’n i’n pryderu ar ôl iddo daro’r postyn cyn yr hanner, ond doedd dim ots am hyn yn y diwedd.
Alex Cuthbert (8) – Cymerodd ei gais yn wych. Dangos ei allu gyda’i gyflymder yn hytrach na’i bŵer.
Jon Davies (7) – Bron â sgorio ar ddechrau’r gêm wrth iddo gael cwpl o rediadau lawr yr ystlys.
Jamie Roberts (8) – Rhediadau pwerus a chic fach bert hefyd. Amddiffyn yn wych.
George North (6) – Gêm dawel yn ymosodol i North, ond mae wedi cael pencampwriaeth arbennig.
Rhys Priestland (7) – Gêm orau’r bencampwriaeth i’r maswr, cicio o’i ddwylo’n ardderchog.
Mike Phillips (6) – Unwaith yn rhagor gormod o oedi, yn fy marn i, ond ei chwarae corfforol yn ei gael allan o drwbl.
Gethin Jenkins (7) – Ym mhobman o amgylch y cae ac yn sgrymio’n dda.
Matthew Rees (7) – Y lein yn edrych yn dda gyda digon o amrywiaeth. Rhan bwysig o’r sgrym gadarn hefyd.
Adam Jones (7) – Mae holl bŵer y sgrym yn dod trwyddo. Mae Adam wedi cael pencampwriaeth wych unwaith yn rhagor.
Alun-Wyn Jones (8) – Rhan o ail rheng wych Cymru. Roedd yng nghanol cais Cuthbert wrth iddo ddwyn y bêl yn ardal y dacl.
Ian Evans (8) – Sai’n rhy siŵr pam nad yw Evans ar y rhestr am chwaraewr y bencampwriaeth wrth ystyried rhai o’r enwau sydd yno. Gêm ragorol arall i’r renaisance man.
Danny Lydiate (10) – Rhaid rhoi deg i Lydiate. Rwy heb weld ymdrech amddiffynnol fel yna gan flaenasgellwr ers amser maith.
Sam Warburton (5) – Roedd rhaid i gapten Cymru adael gydag anaf ar hanner amser. Dangos ei ddawn, serch hynny yn yr hanner cyntaf.
Toby Faletau (8) – Gwych yn y lein ac yn amddiffynnol. Ei gêm orau o’r bencampwriaeth yn ymosodol.