Cymru 16–9 Ffrainc

Cipiodd Cymru Gamp Lawn wrth guro Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn. Dim ond un cais a gafwyd yn y gêm, ond roedd ymdrech hanner cyntaf Alex Cuthbert ynghyd â chicio cywir Leigh Halfpenny yn ddigon i sicrhau’r bumed buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni i dîm Warren Gatland.

Cafwyd munud o dawelwch i gofio’r diweddar Mervyn Davies cyn y gic gyntaf ac roedd perfformiad y dynion mewn coch yn yr 80 munud wedyn yn deyrnged deilwng i gyn gapten Cymru a fu farw ddydd Iau.

Hanner Cyntaf

Cymru a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn y deg munud agoriadol ond ni chafwyd pwyntiau i’w dangos am yr oruchafiaeth.

Roedd penderfyniadau amheus y dyn yn y canol, Craig Joubert, yn nodwedd o chwarter cyntaf y gêm ac un o’r penderfyniadau hynny a roddodd y cyfle i Dimitri Yachvili roi Ffrainc ar y blaen gyda phwyntiau cyntaf y gêm wedi 12 munud.

Fe gafodd Cymru gyfle i unioni’r sgôr bedwar munud yn ddiweddarach ond roedd Rhys Priestland braidd yn anffodus i weld ei gynnig am dri phwynt yn taro’r postyn.

Ond daeth pwyntiau cyntaf haeddianol i’r tîm cartref wedi 22 munud gyda chais unigol gwych i Cuthbert. Gwnaeth Alun Wyn Jones yn dda i ddwyn y meddiant yn ardal y dacl cyn i’r bêl gael ei lledu’n gyflym i Cuthbert ar y dde. Roedd gan yr asgellwr ddigon i’w wneud o hyd ond gwnaeth yn wych i guro dau ddyn a sgorio o dan y pyst. 7-3 y sgôr yn dilyn trosiad Halfpenny.

Dim ond un tîm oedd ynddi ac roedd Cymru’n haeddu mwy na phedwar pwynt o fantais mewn gwirionedd. A chawsant eu haeddiant saith munud cyn yr egwyl pan giciodd Halfpenny dri phwynt arall. Cafodd y cefnwr gyfle arall yn yr eiliadau olaf ond tarodd y gic honno yn erbyn y postyn.

Rhaid oedd bodloni ar saith pwynt o fantais felly ond Cymru oedd yn llwyr reoli pob agwedd o’r gêm.

Ail Hanner

Ni ddaeth capten Cymru, Sam Warburton, allan ar gyfer yr ail hanner oherwydd anaf. Ond er nad oedd blaenasgellwr ochr agored cydnabyddedig ar y fainc doedd yr eilydd ddim yn chwaraewr rhy ffôl o gwbl – Ryan Jones, dyn a oedd eisoes wedi ennill dwy Gamp Lawn gyda Chymru yn y gorffennol.

Roedd Ffrainc yn edrych ychydig bach mwyn bywiog ar ddechrau’r ail hanner a daethant yn agos at gais wedi pum munud cyn gorfod bodloni ar gic gosb o droed Lionel Beauxis, y bwlch yn ôl i bedwar pwynt.

Roedd y bwlch o saith yn ôl wedi 53 munud wedi i Halfpenny lwyddo gyda mynydd o gic gosb o’i hanner ei hunan.

Cafwyd ambell gyfnod anghyfforddus wrth i Ffrainc bwyso wedi hynny ond daliodd amddiffyn Cymru’n gadarn.

Wedi dweud hynny, fe lwyddodd Yachvili gyda chic gosb arall saith munud o’r diwedd ond roedd angen cais ar y Ffrancwyr o hyd ac roedd Cymru yn ôl yn hanner eu gwrthwynebwyr. A fu dim rhaid aros yn hir cyn i Ffrainc droseddu a rhoi cyfle i Halfpenny adfer y saith pwynt o fantais. 16-9 i Gymru gyda dim ond pedwar munud ar ôl.

A llwyddodd y blaenwyr i gadw’r bêl am y mwyafrif o’r pedwar munud hwnnw cyn i Priestland ei chicio dros yr ystlys i ennill y gêm.

Camp Lawn i Gymru felly, y drydedd mewn saith mlynedd a’r ail yng nghyfnod Gatland. Ac er na chwaraeodd Cymru rygbi mor atyniadol yn ystod y Bencampwriaeth eleni ag y gwnaethant yn y ddwy arall efallai mae’n braf gweld y tîm ifanc a wnaeth mor dda yn Seland Newydd y llynedd yn cael eu gwobrwyo o’r diwedd.

Un o’r chwaraewyr ifanc hynny oedd Rhys Priestland a chwaraeodd y maswr ei gêm orau yn y Bencampwriaeth heddiw ac roedd yn ddyn hapus iawn ar ddiwedd y gêm:

“Mae’n anhygoel. Ar ôl yr holl ymdrech, nid yn unig yn y Chwe Gwlad ond yng Nghwpan y Byd hefyd, mae e’ i gyd yn werth chweil nawr.”