Sam Warburton
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi cyhoeddi tîm cryf i gwrdd â Ffrainc ddydd Sadwrn wrth i Gymru anelu am y Gamp Lawn.

Mae Sam Warburton wedi gwella o’i anaf pen-glin ac yn gapten ar y tîm unwaith eto, gan ddisodli Justin Tipuric a chwaraeodd yn erbyn yr Eidal.

Ar y fainc mae’r mewnwr Lloyd Williams yn ei ôl, gyda Rhys Webb felly’n colli ei le ar ôl ennill ei gap cyntaf yn y fuddugoliaeth yn erbyn yr Eidal y penwythnos diwethaf.

Mae hyfforddwr Ffrainc, Philippe Saint-Andre, wedi gwneud chwech o newidiadau i’w dîm yn dilyn y perfformiad siomedig yn erbyn Lloegr.

Mae’r mewnwr profiadol Dmitri Yachvili wedi’i gynnwys yn y pymtheg, ynghyd â’r prop David Attoub fydd yn chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf ers iddo gael ei wahardd am 70 wythnos am roi bys yn llygad gwrthwynebydd. Mae’r canolwr talentog Wesley Fofana yn symud i’r asgell i gymryd lle Vincent Clerc, sydd ag anaf.

Dyma’r timau’n llawn, y gêm i ddechrau am 2:45pm brynhawn Sadwrn:

Cymru: Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins, Matthew Rees, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Sam Warburton (capten), Toby Faletau

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams

Ffrainc: C Poitrenaud, W Fofana, A Rougerie, F Fritz, A Palisson, L Beauxis, D Yachvili, J-B Poux, W Servat, D Attoub, P Pape, Y Maestri, T Dusautoir (capten), J Bonnaire, I Harinordoquy.

Eilyddion: D Szarzewski, V Debaty, J Pierr, L Picamoles, M Parra, F Trinh-Duc, J-M Buttin.