Mike Ruddock
Mae cyn hyfforddwr Cymru Mike Ruddock a arweiniodd Cymru i Gamp Lawn yn 2005, yn rhagwled y bydd Cymru’n drech na’r Ffrancwyr ddydd Sadwrn.

‘‘Rwyf yn disgwyl i Gymru ennill, mae ganddynt y gallu i fod y tîm gorau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad,’’ dywedodd Mike Ruddock, hyfforddwr tîm rygbi  Iwerddon dan 20 oed.

Bydd Cymru yn croesawu Les Blues i Stadiwm y Mileniwm  ddydd Sadwrn mewn gobaith o gipio’r Gamp Lawn ac efallai dial am y gêm ddiwethaf  yn rownd gyn derfynol Cwpan y Byd ym mharc Eden yn Seland Newydd.

Collodd Cymru 9-8 yn erbyn Ffrainc, ar ôl i Gapten Cymru gael ei wahardd o’r cae oherwydd tacl beryglus ar asgellwr Ffrainc Vincent Clerc.

Hefyd mae cyn Gapten Cymru Michael Owen, a wnaeth 41 o ymddangosiadau rhyngwladol i Gymru, yn gweld y bydd Cymru yn gryfach na Ffrainc ar y diwrnod.

‘‘Dwi ddim yn gallu gweld Cymru’n colli’r gêm yma.  Mae’r tîm wedi gweithio mor galed i gyrraedd y pwynt yma, ac yn bersonol rwyf yn meddwl y byddant yn rhy dda i Ffrainc,’’ meddai Michael Owen.

Ennillodd Warren Gatland ei gamp lawn gyntaf gyda Cymru yn 2008.

Dim ond John Dawes ar hyn o bryd sydd wedi cipio’r Gamp Lawn ddwywaith yn y blynyddoedd 1976 a 1978.

‘‘Dechreuodd Cymru ei ymgyrch yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad heb chwaraewyr fel Alun Wyn Jones, Matthew Rees a Gethin Jenkins oherwydd  nad oeddynt yn barod i chwarae.  Hefyd, gan gofio bod Shane Williams wedi ymddeol roedd yna rhywfaint o waith i wneud. Mae Cymru wedi creu argraff arbennig ar bawb,’’ meddai Ruddock.