Sam Warburton
Mae pedwar chwaraewr o Gymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer teitl chwaraewr gorau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Er mai dim ond gêm a hanner mae wedi llwyddo i chwarae hyd yn hyn, mae’r capten Sam Warburton wedi ei enwebu.
Mae un arall o reng ôl ifanc ond nodedig Cymru, Dan Lydiate hefyd ar y rhestr ynghyd â’r asgellwr Alex Cuthbert a’r mewnwr Mike Phillips.
Does dim un o garfan Lloegr ar y rhestr fer, er eu bod wedi ennill tair o’u pedair gêm.
Er eu bod wedi colli pob gêm hyd yn hyn, mae dau Albanwr ar y rhestr, sef David Denton a Ross Rennie, yn ogystal â dau Wyddel, sef Jonny Sexton a Donnacha Ryan.
I gwblhau’r rhestr mae’r tri Ffrancwr Julien Malzieu, Yoann Maestri and Imanol Harinordoquy a chapten Yr Eidal, Sergio Parisse.