Roedd llygaid craff criw Sgorio ar chwaraewyr Uwch Gynghrair Cymru fel arfer dros y penwythnos. Dyma’r XI greodd argraff.

GOLWR

Paul Harrison (Y Seintiau Newydd) – Roedd y golwr ar ei orau i rwystro unrhyw syniadau oedd gan Fangor o frwydro’n ôl yn ystod yr ail hanner brynhawn Sadwrn, wrth i’r Seintiau drechu’r pencampwyr 3-1 ar eu tomen eu hunain.

AMDDIFFYN

Liam Hancock (Lido Afan) – Rhwydodd Hancock gôl hyfryd i Lido yn erbyn Airbus gan droi’r amddiffyn cyn taro ergyd hyfryd o bellter i gornel uchaf y rhwyd.

Steve Evans (Y Seintiau Newydd) – Roedd cyn amddiffynnwr rhyngwladol Cymru yn ôl ar ei orau yn erbyn Bangor brynhawn Sadwrn gan reoli’r amddiffyn yn ogystal â chreu’r gôl agoriadol i Greg Draper.

Kai Edwards (Castell-nedd) – Mae capten Yr Eryrod wedi aeddfedu’n aruthrol yn y misoedd diwethaf ac roedd yn allweddol unwaith eto wrth i Gastell-nedd gadw’r pwysau ar Fangor a’r Seintiau gyda buddugoliaeth dros Lanelli.

Liam James (Aberystwyth) – Mae’r bachgen ifanc lleol wedi cael ei le yn y tîm ers i Tomi Morgan gymryd yr awenau – mae ei berfformiad aeddfed brynhawn Sadwrn yn sicr yn ei glustnodi fel un i’w wylio.

CANOL CAE

Aeron Edwards (Y Seintiau Newydd) – Seren y gêm yn y gêm fyw brynhawn Sadwrn. Roedd Edwards yng nghanol popeth wrth i’r Seintiau chwalu’r pencampwyr, Bangor, yn Nantporth

Sean Thornton (Aberystwyth) – Am yr ail wythnos yn olynol, roedd Thornton ben ac ysgwyddau’n well nag unrhyw un arall ar y maes i Aberystwyth

Mark Jones (Y Bala) – Un arall o gyn chwaraewyr rhyngwladol Cymru sydd yn parhau i osod ei stamp ar Uwch Gynghrair Cymru. Roedd Jones yn arbennig yng nghanol cae Y Bala yn erbyn Prestatyn nos Wener gan greu  sawl cyfle.

YMOSODWYR

Luke Bowen (Castell-nedd) – Rhwydodd Bowen ddwy gôl arall yn erbyn Llanelli nos Wener er mwyn codi ei gyfanswm am y tymor i 14 gôl. Mae’r ymosodwr wedi blodeuo ers i Kristian O’Leary gymryd yr awenau ar Y Gnoll ac yn allweddol yn llwyddiant diweddar yr Eryrod.

Greg Draper (Y Seintiau Newydd) – Bachodd chwaraewr rhyngwladol Seland Newydd ddwy gôl hyfryd arall yn erbyn Bangor brynhawn Sadwrn wrth i’r Seintiau gamu i frig Uwch Gynghrair Cymru ar ôl trechu’r pencampwyr.

Jack Christopher (Caerfyrddin) – Rhwydodd Christopher gôl hollbwysig i’r Hen Aur yn eu brwydr i osgoi cwympo o Uwch Gynghrair Cymru.

Cofiwch fod modd gwylio uchafbwyntiau holl gemau’r Uwch Gynghrair ar raglen Sgorio heno (nos Fawrth) am 18:30 ar S4C, gydag ailddarllediad am 23:35.