Mae chwaraewr-reolwr Castell Nedd, Kristian O’Leary wedi’i enwi’n Rheolwr y Mis Uwch Gynghrair Cymru.

Daw’r gydnabyddiaeth gwta dri mis ar ôl iddo ddechrau ei yrfa reoli – cafodd ei benodi’n rheolwr ar Gastell Nedd ar ôl i Terry Boyle a Peter Nicholas adael ym mis Tachwedd.

Mae cyn amddiffynnwr Abertawe wedi llwyddo i greu cryn argraff ar y Gnoll, a dyw’r Eryrod heb golli gêm eto yn 2012 ac maent ar rediad o bum buddugoliaeth mewn chwe gêm.

Wedi dechrau simsan i’r tymor maent bellach yn cystadlu o ddifrif gyda Bangor a’r Seintiau Newydd ar frig tabl yr Uwch Gynghrair.

Draper yn chwaraewr y mis

Ymosodwr y Seintiau Newydd, Greg Draper sydd wedi’i enwi’n Chwaraewr y Mis.

Hyd yn hyn mae chwaraewr rhyngwladol Seland Newydd wedi sgorio 19 o goliau’r tymor yma, a ddim ond un gôl tu ôl i Rhys Griffiths yn nhabl y prif sgorwyr.

Fe sgoriodd y chwaraewr 22 oed chwe gôl mewn pum gêm yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror, gan gynnwys hat-trick yn erbyn Y Drenewydd.

Mae gan Draper un cap i’w wlad yn dilyn ymddangosiad yn erbyn Fiji yn 2010.

Fe ymunodd â’r Seintiau Newydd dros yr haf wedi iddo dreulio tymor gyda Basingstoke Town.