Dimitri Yachvili - nôl yn y garfan
Mae hyfforddwr Ffrainc, Philippe Saint-Andre, wedi gwneud chwech newid i’w garfan cyn iddyn nhw herio Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn nesaf.

Daw’r newidiadau yn dilyn colled siomedig yn erbyn y Saeson ddoe.

Mae cefnwr Clermont, Jean-Marcellin Buttin wedi’i alw i’r garfan am y tro cyntaf.

Mae Dimitri Yachvili, Julien Pierre, Alexis Palisson, Fulgence Ouedraogo a Florian Fritz oll wedi eu galw i’r garfan hefyd wrth i hyfforddwr Ffrainc ymateb i’r golled o 24-22 yn erbyn Lloegr.

Julien Dupuy, Maxime Mermoz, Julien Malzieu a Lionel Nallet yw’r rhai anlwcus sydd wedi colli ei llefydd tra bod yr asgellwr bach Vincent Clerc wedi’i anafu.

Mae ‘na hefyd amheuaeth ynglŷn â ffitrwydd Thierry Dusautoir ac  Imanol Harinordoquy sydd ill dau wedi anafu eu pen-gliniau, tra bod Julien Bonnaire wedi anafu ei fraich.

Carfan Ffrainc i herio Cymru:

Blaenwyr: J Poux (Toulouse), N Mas (Perpignan), V Debaty (Clermont), D Attoub (Stade Francais), D Szarzewski (Stade Francais), W Servat (Toulouse), P Pape (Stade Francais), Y Maestri (Toulouse), J Pierre (Clermont), T Dusautoir (Toulouse, captain), F Ouedraogo (Montpellier), J Bonnaire (Clermont), I Harinordoquy (Biarritz), L Picamoles (Toulouse).

Cefnwyr: M Parra (Clermont), D Yachvili (Biarritz), F Trinh-Duc (Montpellier), L Beauxis (Toulouse), W Fofana (Clermont), A Rougerie (Clermont), F Fritz (Toulouse), A Palisson (Toulon), J Buttin (Clermont), C Poitrenaud (Toulouse)