Ian Evans - arwr tawel
Aled Price sy’n dadansoddi buddugoliaeth Cymru’n erbyn Yr Eidal bnawn Sadwrn.

Mae’n destament i ddawn ac i chwarae presennol tîm Cymru taw’r prif emosiwn wy’n teimlo ar ôl maeddu tîm o 21 pwynt, yw siom.

Roedd gwylio’r gêm yn brofiad hynod o rwystredig. Roedd llawer gormod o gamgymeriadau, gormod o gam drafod a hefyd roedd Cymru’n cael eu cosbi’n eithaf cyson pan oeddynt â’r bêl yn 22 yr Eidal.

Oedd bai ar y dyfarnwr? Efallai.

Rhaid dweud bod carden felen Halfpenny yn chwerthinllyd. Oherwydd hyn, collodd Cymru’r cyfle i adeiladu ar gais Roberts, ond does dim angen chwilio am esgusodion.

Tactegau Amheus?

Ar brydiau, ro’n i’n gwylio’r gêm ac yn pryderu am dactegau Cymru. Edrychai tîm Gatland fel petai nhw’n methu â thorri amddiffyn yr Eidal.

Dro ar ôl tro roedd y symudiad wedi’i osod yn amlwg – pas i Jamie Roberts ac yna pas nôl tu mewn i George North.

Ar y dechrau gweithiodd hyn ac roedd North ar garlam, ond ar ôl hynny, roedd yr Eidal wedi ffeindio ffordd o amddiffyn y symudiad. Yn anffodus i ni, methodd Cymru ag addasu i hyn ac roedd hi fel rhedeg mewn i wal dro ar ôl tro.

Yn fy marn i, roedd tactegau Cymru yn eithaf diniwed. Mae rhaid ennill yr hawl i sgubo’r bêl o asgell i asgell wrth wneud gwaith caled ymhlith y blaenwyr ac o amgylch y ryciau.

Roedd galwad gan un o oreuon Cymru, Phil Bennett yn yr wythnos i Gymru chwarae fel y Crysau Duon ac i fod yn ddidostur. Ro’n i hefyd yn gobeithio y byddai Cymru’n anfon neges i Ffrainc gyda’u perfformiad. Yn anffodus, i mi o leiaf, ni ddigwyddodd hynny ac roedd Cymru’n eithaf gwastraffus gyda’u cyfleon.

Petai Cymru’n herio unrhyw dîm arall, a fydden nhw wedi difaru bod mor wastraffus? Siŵr o fod.

Amddiffyn Arwrol

Rhaid dweud bod Cymru wedi gwneud sawl peth yn dda. Roedd yr amddiffyn unwaith eto’n hynod o gadarn. Mae’n edrych fel petai’r amddiffyn dan arweiniad Shaun Edwards wedi ail ddarganfod ei mojo. Doedd yr Eidalwyr ddim yn edrych fel sgorio cais, ac amddiffyn da oedd catalydd y cais cyntaf wrth i Gethin Jenkins ddwyn y bêl yn ardal y tacl.

Wrth gipio’r Gamp Lawn yn 2008, amddiffyn oedd sail y llwyddiant. Trwy gydol Cwpan y Byd, â’r bencampwriaeth eleni mae’r amddiffyn wedi bod yn arbennig. Rhaid gobeithio bod hyn yn argoeli’n dda i’r dyfodol.

Rheolodd Cymru’r rhan fwyaf o’r ornest ond rhaid rhoi clod i amddiffyn Yr Eidal, ac ar brydiau ro’n i’n dechrau pryderu.

Problemau Ymosodol?

Os yw’r tîm amddiffynnol yn negyddu pŵer ein holwyr, yna mae’n ymddangos nad oes llawer o atebion gan Gymru. Gwnaeth Lloegr hyn, â’r Eidal i raddau. Am rhyw rheswm mae chwarae creadigol Cymru wedi dioddef yn ddiweddar.

Efallai bod rhaid edrych ar Rhys Priestland?

Dyw Priestland ddim yn chwarae’n rhy dda ar y foment. Edrychodd ar goll ar sawl achlysur ddydd Sadwrn. ‘Wy wedi nodi bod ei basio yn dechrau dod yn broblem, ar fwy nag un achlysur yn ddiweddar mae pas wael gan Priestland wedi lladd ymosodiad Cymreig.

Serch hynny, ciciodd Priestland yn dda ddydd Sadwrn ac roedd yn ganolog i gais Jamie Roberts wrth iddo redeg yn syth a phasio ar yr amser iawn.

Ro’n i braidd yn siomedig wrth glywed mai Alex Cuthbert oedd seren y gêm. Yn bersonol, ro’n i’n gweld perfformiad Cuthbert yn siomedig, ac roedd yn ceisio’n rhy galed. Ambell waith roedd yn edrych fel petai eisiau rhedeg trwy holl dîm yr Eidal.

Serch hynny, rhaid rhoi clod iddo am ei gais. Dangosodd gyflymder gwych a gorffen ei gyfle’n hynod o dda – un nodwedd hynod o bwysig i asgellwr ifanc.

Geni Seren Newydd

Yn fy marn i, a digon o bobol eraill mae’n debyg, Justin Tipuric oedd yn haeddu bod yn seren y gêm.

Cafodd blaenasgellwr y Gweilch gêm ragorol. Roedd ar ysgwydd pawb oedd wedi gwneud hanner bylchiad, taclodd yn wych a gwnaeth niwsans llwyr o’i hun yn ardal y dacl.

Mae yna sôn na fydd Sam Warburton yn holliach ar gyfer yr ornest yn erbyn Ffrainc. Mae Warburton yn un o flaenwyr gorau’r byd ond  fydd Cymru ddim yn ei golli’n ormodol os oes rhaid i Tipuric dechrau yn lle’r capten – mae hynny’n glod ynddo’i hun.

Gair hefyd am Ian Evans wrth i’w bencampwriaeth wych barhau. Fe yw arwr tawel y garfan. Daeth i mewn fel pedwerydd dewis yn yr ail reng ac yn fy marn i, fe ddylai ddechrau wrth ochr Charteris am y gêm olaf.

Dyw rygbi Cymru erioed wedi gallu brolio’r fath ddyfnder. Dros y blynyddoedd ‘wy wedi edrych ar wledydd eraill gyda chenfigen, ond nawr nhw sy’n edrych arnom ni.

Un Gêm i Fynd

Efallai mai hon oedd y gêm berffaith i Gymru. Doedd hi ddim yn gêm hynod o ddisglair, a ni pherfformiodd tîm Gatland ar eu gorau. Roedd rhaid i Gymru weithio’n hynod o galed a gobeithio bydd y chwaraewyr yn sylweddoli bod tasg enfawr o’u blaenau o hyd os ydyn nhw am sicrhau’r Gamp Lawn.