Justin Tipuric (llun o wefan URC)
Aled Price sy’n asesu perfformiadau unigol chwaraewyr Cymru yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn.
Leigh Halfpenny (8) – Gêm wych arall i Halfpenny. Ymuno â’r llinell ymosodol yn effeithiol. Cadarn dan y bêl uchel a chicio at y pyst yn wych.
Alex Cuthbert (7) – Seren y Gêm yn swyddogol, ond gêm eithaf siomedig yn fy marn i. Ceisio’n rhy galed ar brydiau ond fe gymerodd ei gais yn wych.
Jon Davies (6) – Gêm dawel i ganolwr y Sgarlets. Anwybyddu ambell i ddyn tu allan iddo fo yn ymosodol.
Jamie Roberts (7) – Cymerodd ei gais yn wych wrth iddo ddewis yr opsiwn cywir a dangos hunanfeddiant oedd ar goll fel arall ar brydiau yn ymosodiadau Cymru.
George North (8) – Rhediadau pwerus sy’n dod yn nodweddiadol o gêm y gŵr ifanc. Mae’n croesi’r llinell fantais pob tro.
Rhys Priestland (6) – Nid yw Priestland ar ei orau ar y foment ond cicio da ac yng nghanol y cais cyntaf.
Mike Phillips (6) – Sai’n gwybod os mai fi’n unig sy’n meddwl hyn, ond mae Phillips yn arafu ymosodiadau Cymru dro ar ôl tro. Serch hyn, does dim amheuaeth bod ei chwarae corfforol yn gaffaeliad.
Gethin Jenkins (8) – Roedd sgrym Cymru’n wych eto, ac fe ddygodd nifer o beli yn ardal y dacl. Ambell benderfyniad fel capten yn amheus.
Matthew Rees (7) – Dod nôl i’r tîm a gwneud yn dda. Cario da a’r lein yn ddigon cadarn.
Adam Jones (7) – Yng nghanol sgrym bwerus Cymru. Chwaraewr hynod o bwysig.
Alun Wyn Jones (6) – Gêm dawel i glo’r Gweilch. Dim camgymeriadau ond dim byd wnaeth sefyll allan chwaith.
Ian Evans (8) – Gwych yn y lein, cynnig ei hun i gario trwy’r amser ac yn cario’n effeithiol. Wedi cael pencampwriaeth ragorol ers cael ei alw i’r garfan.
Dan Lydiate (7) – Yng nghanol popeth da yn amddiffynnol. Gweithio’n ddiflino trwy gydol yr 80 munud.
Justin Tipuric (9) – Seren y Gêm yn fy nhyb i. Ar ysgwydd pob chwaraewr oedd yn torri a gwneud niwsans o’i hun yn ardal y dacl fel pob rhif 7 da.
Toby Faletau (8) – Opsiwn gwych yn y lein, cario’n dda thaclo’n dda. A gafodd y gorau o Parisse? Dadleuol. Wedi bod yn eithaf tawel yn y bencampwriaeth hyd at hyn.