Gormod o flerwch oedd ar fai wrth i’r Scarlets golli yn rownd gynderfynol cwpan LV ddoe yn ôl eu maswr Stephen Jones.

Seintiau Northampton fydd yn camu ymlaen i herio Caerlŷr yn y rownd derfynol wythnos nesaf ar ôl iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Cymry ar Erddi Franklin ddoe.

Er i’r ymwelwyr ddechrau’r gêm yn dda, roedd chwarae tynn y Seintiau’n rhy nerthol i’r rhanbarth Cymreig yn y diwedd.

Wrth siarad ar ôl y gêm, cyfaddefodd maswr profiadol y Scarlets, Stephen Jones bod camgymeriadau unigol wedi cyfrannu’n helaeth at y canlyniad hefyd.

“Ry’n ni’n siomedig iawn. Maen nhw’n dîm da wrth gwrs, yn enwedig ymysg y blaenwyr, ond mae’n rhaid i ni fod yn llawer mwy cywir yn y gemau mawr yma,” meddai Jones.

“Does dim lle i gamgymeriadau ac roedden ni’n rhy flêr ac yn colli’r bêl yn rhy aml.”

Dim esgusodion

Roedd nifer o sêr mwyaf y Scarlets yn eisiau ar gyfer y gêm gan eu bod gyda charfan Cymru.

Ond yn ôl Stephen Jones, dyw hynny ddim yn esgus i fois y sosban gan fod carfan gref ganddyn nhw bellach.

“Ry’n ni’n gwybod bod gyda ni rai chwaraewyr ifanc da yn y tîm ac mae cnwd arbennig o chwaraewyr newydd yn dod drwy’r system, ond allwn ni ddim defnyddio’r ffaith bod nifer o chwaraewyr rhyngwladol ddim ar gael fel esgus.

“Mae pawb yn y garfan yn gyfartal ac mae’n rhaid i ni edrych nôl yn ofalus ar y perfformiad a cheisio cywiro’r camgymeriadau.”

Bydd y Scarlets yn gobeithio gwella eu perfformiad erbyn eu gêm nesaf, sef gêm gynghrair RabboPro Direct yn erbyn Gleision Caerdydd ar 24 Mawrth.