Sam Warburton
Mae disgwyl i gapten Cymru, Sam Warburton, fod yn ffit i herio Ffrainc yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn nesaf.
Methodd y blaenasgellwr agored y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn oherwydd anaf i’w benglin.
Er hynny, mae’r tîm hyfforddi yn dweud bod y rhagolygon yn addawol iddo ddychwelyd erbyn wythnos nesaf.
“Mae’r newyddion yn gadarnhaol ynglŷn â Sam” meddai hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde.
“Mae wedi bod yn rhedeg yr wythnos yma, mewn llinellau syth yn unig ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd yn ymateb yn dda i ychydig o ochrgamu ac ati ddechrau’r wythnos yma.”
Dyfnder
Hon oedd yr ail gêm o’r bencampwriaeth i’r capten fethu oherwydd anaf – methodd â chwarae rhan yn y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban chwaith.
Aaron Shingler oedd yn gwisgo crys rhif saith yn gêm honno, ac fe berfformiodd yn dda.
Camodd blaenasgellwr ifanc y Gweilch, Justin Tipuric i esgidiau Warburton ddydd Sadwrn ac roedd yn agos iawn at gael ei enwi’n seren y gêm wedi perfformiad arbennig.
Yn ôl McBryde mae dyfnder y garfan a’r gystadleuaeth am safleoedd yn fwy nag erioed ar hyn o bryd.
“Fe fydd yn ychwanegu dyfnder i’r dewisiadau sydd gennym wythnos nesaf,” meddai McBryde am groesawu Warburton yn ôl.
“Fel rydan ni wedi gweld gyda Ken Owens a Matthew Rees, dyma’r math o gystadleuaeth sydd angen mewn carfan gan ei fod yn gwneud eich gwaith fel hyfforddwr yn llawer haws.”
“Maen nhw’n ymwybodol o’r pwysau tu ôl iddyn nhw ac felly’n fwy awyddus, ac yn llawer mwy cystadleuol.”
“Rydan ni wedi gweld cipolwg o’r hyn mae Justin yn gallu gwneud yn yr agored… ac mae’n bositif iawn gweld bod cryfder a dyfnder yn y safle hwnnw.”