Joe Allen
Mae chwaraewr canol cae Abertawe a Chymru, Joe Allen, yn credu bod curo Man City ddoe yn un o’r canlyniadau pwysicaf yn hanes Yr Elyrch.

Wrth siarad ar ôl y fuddugoliaeth o gôl i ddim ddoe, dywedodd  Allen fod y canlyniad yn adlewyrchu’r modd mae’r tîm wedi datblygu yn ystod y tymor.

Collodd Yr Elyrch eu gêm gyntaf o’r tymor yn yr Uwch Gynghrair o 4-0 yn erbyn Man City.

“Mae bron fel edrych ar dîm gwahanol” meddai Allen wrth adran chwaraeon y BBC.

“Mae’n arwydd o’r camau mawr rydym wedi cymryd, a’r gwelliant [mewn chwaraewyr] unigol ac fel tîm.”

“Efallai ein bod ni wedi synnu Man City ond ry’n ni wrth ein bodd i allu curo’r tîm oedd ar frig y gynghrair.”

“Rwy’n credu bod pob un person wedi codi i ofynion yr Uwch Gynghrair a’n bod yn symud i’r cyfeiriad cywir”.

Hanesyddol

Mae’r gwahaniaeth yng nghyfoeth y ddau glwb yn syfrdanol, ac yn ôl Allen mae hynny’n cyfrannu at wneud y canlyniad yn un mor foddhaol.

Roedd gwerth y tîm oedd yn herio Abertawe ddoe yn £150m.

Y mwyaf mae Abertawe wedi’i wario ar chwaraewr erioed yw £3.5m am Danny Graham dros yr haf, tra bod Man City wedi gwario deg gwaith y swm hwnnw ar Sergio Aguero ym mis Gorffennaf.

“Os ydych chi’n cymharu’r ddau glwb yn ariannol, mae hynny’n un o’r rhesymau bod y canlyniad mor foddhaol” meddai Allen.

“Rwy’n credu ei fod yn un o’r dyddiau mwyaf yn hanes y clwb. Yn ddiwrnod anhygoel i’r chwaraewyr ac i’r clwb.”

“Mae’n ddiwrnod anferthol i’r clwb ac i hanes y clwb rwy’n credu.”