Llanelli 1-2 Castell Nedd

Roedd dwy gôl hanner cyntaf gan Luke Bowen yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Gastell Nedd wrth i’w rhediad gwych barhau yn erbyn Llanelli ar Stebonheath niwlog nos Wener.

Rhwydodd Bowen ei gyntaf wedi dim ond saith munud gyda foli wych wedi i Matthew Rees benio’r bêl ymlaen iddo o gic gornel.

Ond dim ond pum munud a barodd y fantais wrth i Chris Venables unioni’r sgôr wedi 12 munud gyda pheniad o gic gornel Craig Williams.

Yna peniodd Bowen ei ail o’r gêm a’i bedwaredd ar ddeg o’r tymor hanner ffordd trwy’r hanner i adfer mantais ei dîm. Gwaith gwych gan Lee Trundle ar ochr y cwrt cosbi a Bowen yn penio i gefn y rhwyd o ddwy lath.

Cafodd Chris Jones a Trundle gyfleoedd i ychwanegu trydedd i’r ymwelwyr wedi’r egwyl ond gwnaeth Ashley Morris yn dda i’w hatal. Ac yn y pen arall llwyddodd Lee Kendall i arbed cynnig Craig Moses.

Gorffennodd Llanelli’r gêm gyda deg dyn wedi i Ashley Evans dderbyn ei ail gerdyn melyn dri munud o’r diwedd.

Mae’r canlyniad yn codi Castell Nedd i’r ail safle bwynt yn unig y tu ôl i’r Seintiau ar y brig.

Y Bala 3-0 Prestatyn

Dyw Prestatyn dal heb guro ers i’r gynghrair hollti’n ddwy ar ôl colli’n drwm yn erbyn y Bala ar Faes Tegid nos Wener.

Bu bron i Mark Jones roi’r tîm cartref ar y blaen yn gynnar ond gwnaeth John Hill-Dunt yn wych i arbed. Ond allai gôl-geidwad Prestatyn wneud dim i atal Jones wedi 16 munud wrth i’r chwaraewr canol cae roi’r Bala ar y blaen.

Gwnaeth Hill-Dunt yn wych unwaith eto i arbed ergyd Lee Hunt cyn yr egwyl ond roedd hi’n ddwy hanner ffordd trwy’r ail hanner diolch i Ian Sheridan. Gwaith da gan John Irving a Mark Connolly ar y dde cyn i Sheridan droi a gorffen yn daclus yn y cwrt cosbi.

A sicrhawyd y fuddugoliaeth chwe munud o’r diwedd, David Hayes yn llawio yn y cwrt cosbi a Hunt yn rhwydo o’r smotyn.

Mae’r Bala yn aros yn y pumed safle a Phrestatyn yn chweched yn dilyn y gêm ond mae pedwar pwynt ar ddeg bellach yn gwahanu’r ddau dîm.

Caerfyrddin 1-0 Port Talbot

Roedd gôl hanner cyntaf Jack Christopher yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i Gaerfyrddin yn erbyn Port Talbot ar Barc Waun Dew nos Wener.

Cafodd Martin Rose gyfle i roi’r ymwelwyr ar y blaen gyda’i ben ond arbedodd Mike Lewis yn wych.

Ond chafodd y gôl-geidwad yn y pen arall ddim cystal gêm achos camgymeriad Kristian Rogers a gyflwynodd unig gôl y gêm i Christopher. Daeth allan ym mhell o’i gwrt cosbi i geisio penio’r bêl ond anelodd hi’n syth at Christopher a thasg hawdd oedd sgorio i ymosodwr Caerfyrddin.

Bu bron i Julian Alsop a Christopher ychwanegu ail yn yr ail hanner ond cafodd y ddau eu hatal gan y pren, ergyd Alsop yn siglo’r trawst a pheniad Christopher yn taro’r postyn.

Mae Caerfyrddin yn aros yn ail o waelod y tabl er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent bellach yn gyfartal ar bwyntiau ag Aberystwyth yn y degfed safle.

Airbus 1-1 Lido Afan

Cyfartal oedd hi yn y frwydr am y seithfed safle holl bwysig wrth i Airbus groesawu Lido Afan i’r Maes Awyr brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Liam Hancock yr ymwelwyr ar y blaen gydag ergyd wych o 30 llath wedi naw munud.

Ond roedd Airbus yn gyfartal dri munud cyn yr egwyl diolch i beniad Mark Cadwallader yn dilyn croesiad Gavin Cadwallader.

Daeth Leon Jeanne yn agos gyda chic rydd yn yr ail hanner ond gorffennodd hi’n gyfartal.

Mae’r canlyniad yn cadw Airbus yn y seithfed ddau bwynt o flaen Lido Afan yn yr wythfed safle.

Bangor 1-3 Y Seintiau Newydd

Cododd y Seintiau Newydd i frig yr Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth oddi cartref yn Nantporth yn erbyn Bangor o flaen camerâu Sgorio nos Sadwrn. Roedd goliau Greg Draper ac Aeron Edwards ynghyd â gôl i’w rwyd ei hun gan Dave Morley yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Seintiau er i Neil Thomas rwydo i Fangor yn gynnar wedi’r egwyl.

Y Drenewydd 1-1 Aberystwyth

Cyfartal oedd hi yn y frwydr tua’r gwaelodion wrth i’r Drenewydd groesawu Aberystwyth i Barc Latham brynhawn Sadwrn.

Roedd Aberystwyth yn meddwl eu bod wedi ennill y gêm gyda gôl Josh Macauley yn gynnar yn yr ail hanner ond cipiodd y Zac Evans bwynt i’r tîm cartref gyda chic o’r smotyn yn y munud olaf.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Drenewydd ar waelod y tabl ac Aberystwyth yn y degfed safle.