Abertawe 1–0 Manchester City

Cafodd Abertawe fuddugoliaeth gofiadwy yn Stadiwm Liberty brynhawn Sul wrth drechu’r tîm a oedd ar frig yr Uwch Gynghrair ar ddechrau’r gêm, Manchester City. Roedd gôl hwyr yr eilydd, Luke Moore, yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i dîm Brendan Rodgers wedi iddynt fethu cic o’r smotyn yn gynnar hefyd.

Ildiodd gôl-geidwad yr ymwelwyr, Joe Hart, y gic o’r smotyn wedi dim ond pum munud ar ôl llorio Wayne Routledge. Ond gwnaeth Hart yn iawn am ei gamgymeriad trwy arbed cynnig Scott Sinclair o ddeuddeg llath.

A bu rhaid iddo fod ar flaenau’i draed unwaith eto funud yn ddiweddarach i arbed ergyd Ashley Williams yn dilyn cic gornel Gylfi Sigurdsson.

Parhau yn ddi sgôr a wnaeth hi tan hanner amser a Michel Vorm oedd y golwr prysuraf wedi’r egwyl. Bu rhaid iddo arbed cynigion Gael Clichy a Samir Nasri toc cyn yr awr cyn atal Micah Richards a Mario Balotelli ddwywaith hanner ffordd trwy’r hanner.

Fe brofodd Routledge Hart wedi 77 munud cyn creu unig gôl y gêm i Moore saith munud o’r diwedd. Dim ond am bedwar munud yr oedd Moore wedi bod ar y cae ar ôl cymryd lle Danny Graham pan groesodd Routledge iddo yn y cwrt chwech. Peniodd yntau heibio i Hart i roi ei dîm ar y blaen.

Cafodd Vorm ei gadw’n brysur yn y pum munud olaf ond llwyddodd i arbed ymdrechion Kolo Toure, Balotelli ac Edin Dzeko i sicrhau llechen lân a buddugoliaeth i’w dîm. Fe wnaeth Richards ddarganfod cefn y rhwyd yn hwyr yn y gêm ond roedd yn camsefyll.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Elyrch bedwar lle i’r unfed safle ar ddeg yn yr Uwch Gynghrair. Maent bellach ar 36 pwynt sydd yn agosach at y safleoedd Ewropeaidd na safleoedd y gwymp.