Cymru 24–3 Yr Eidal
Bydd Cymru’n herio Ffrainc am y Gamp Lawn yr wythnos nesaf ar ôl trechu’r Eidal mewn gêm braidd yn siomedig yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn. Roedd disgwyl i Gymru sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad mewn steil yn erbyn yr Eidalwyr, ond dim ond dau gais a gafwyd er ei bod hi’n fuddugoliaeth ddigon cyfforddus.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd Cymru ar dân yn y munudau agoriadol gyda’r asgellwyr, George North ac Alex Cuthbert, yn creu argraff. Ond roedd amddiffyn yr Eidal yr un mor effeithiol a bu rhaid aros naw munud am y pwyntiau cyntaf. Blaenwyr yr ymwelwyr o flaen cic Fabio Semenzato a Leigh Halfpenny yn llwyddo gyda chic gosb o bellter.
Ond dim ond tri munud a barodd y fantais honno wrth i flaenwyr Cymru droseddu yn y sgrym a chynnig tri phwynt ar blât i giciwr yr Eidalwyr, Mirco Bergamasco, 3-3 wedi 12 munud.
Cymru a reolodd y tir a’r meddiant wedi hynny ond dim ond cic gosb arall o droed Halfpenny oedd ganddynt i’w ddangos am hynny erbyn hanner ffordd trwy’r hanner.
Parhau i bwyso’n ddi drugaredd a wnaeth Cymru ac roedd angen tacl dda iawn gan Sergio Parisse i atal Halfpenny rhag croesi toc cyn yr hanner awr. Yn wir, daliodd amddiffyn yr Eidalwyr yn gryf trwy gydol yr hanner ac er bod Cymru yn llwyr reoli roedd yn rhaid iddynt ddibynnu ar gic gosb arall gan Halfpenny bedwar munud cyn yr egwyl i roi chwe phwynt o fantais iddynt ar hanner amser.
Ail Hanner
Doedd Cymru ddim cystal ar ddechrau’r ail hanner a chafodd yr Eidal eu cyfnod gorau o’r gêm. Ond yn eironig iawn o’r cyfnod hwnnw y daeth y cais agoriadol i Gymru!
Dwynodd Alun Wyn Jones y bêl yn hanner Cymru a lledodd yr olwyr hi’n gyflym i Jamie Roberts ar y chwith a rhedodd y canolwr yr holl ffordd o’i linell deg medr ei hunan heb fawr o drafferth. Llwyddodd Halfpenny gyda’r trosiad rhwydd i’w gwneud hi’n 16-3 gyda hanner awr ar ôl.
Fe ddeffrodd Cymru wedi hynny ac roedd hi’n ymddangos fod y llifddorau am agor, ond unwaith eto roedd amddiffyn yr Eidal yn gadarn.
Mae cardiau melyn wedi bod yn thema gyson yng ngemau Cymru yn y Chwe Gwlad eleni a doedd y gêm yma ddim yn eithriad wrth i Halfpenny gael ei anfon am ddeg munud yn y gell gosb toc wedi’r awr. Braidd yn anffodus oedd y cefnwr mewn gwirionedd ond bydd cysondeb y cardiau melyn yn bryder i Gatland serch hynny.
Gyda Halfpenny oddi ar y cae fe ymestynodd Rhys Priestland fantais Cymru i 16 pwynt gyda chic gosb ddeg munud o’r diwedd. Roedd peth siom nad aeth y tîm cartref at y gornel ond roedd y tri phwynt yn ddigon i roi dwy sgôr rhwng y timau a sicrhau’r fuddugoliaeth.
Ond doedd dim dwywaith fod y dorf yn disgwyl mwy nag un cais ac fe ddaeth yr ail i Gymru dri munud o’r diwedd. Cymerodd Gethin Jenkings gic gosb gyflym ar y llinell hanner cyn pasio i Cuthbert, a rhedodd yr asgellwr gweithgar yr holl ffordd i’r gornel ar gyfer cais haeddianol.
Ymateb
24-3 y sgôr terfynol felly a buddugoliaeth gyfforddus i Gymru. Ond buddugoliaeth ddigon di fflach oedd hi mewn gwirionedd a bydd rhaid i Gymru fod yn well yn erbyn Ffrainc yr wythnos nesaf os ydynt am sicrhau’r Gamp Lawn.
Ac er nad oedd capten Cymru, Gethin Jenkings, yn rhy fodlon â’r perfformiad yn y diwedd roedd yn ddigon hapus gyda’r canlyniad:
“Mae hi wastad yn braf cael buddugoliaeth yn y Chwe Gwlad. Gêm braidd yn fratiog oedd hi, dwi ddim yn meddwl mai hwnna oedd un o’n perfformiadau gorau ni ond rydyn ni wedi ennill pedair allan o bedair yn awr felly fe allwn ni edrych ymlaen at wythnos nesaf.”