Mae’r cyn-faswr Jonathan Davies wedi annog Cymru i fod yn amyneddgar a pheidio â rhuthro’r chwarae yn erbyn Yr Eidal yfory.

Hyd yma, ar gyfartaledd, mae Cymru wedi sgorio bron I 40 pwynt bob tro maen nhw wedi herio’r Azzurri yng Nghaerdydd.

Tra bo bechgyn Gatland yn hedfan yn y Bencampwriaeth hyd yma a llawer o’r cefnogwyr yn aros yn eiddgar am grasfa arall, mae Davies yn rhybuddio na fydd hi’n fuddugoliaeth rwydd.

“Rhaid sicrhau ein body n cadw’r bêl yn amyneddgar, ac nid disgwyl I bethau ddigwydd yn syth bin,” meddai.

“Rydan ni’n disgwyl gêm galed iawn, dyna fel mae hi wastad, ond rhaid sicrhau ein body n cadw’r bêl a chwarae gêm tempo uchel…a bydd hynny’n dwyn ffrwyth yn yr ugain munud olaf, gobeithio.”