Don Cowie
Yfory bydd Caerdydd yn teithio i Fryste, yn gobeithio am fuddugoliaeth yn erbyn tîm sy’n is na nhw yn y tabl.

Mae’r Adar Gleision bellach yn yr wythfed safle a Bryste yn  ugeinfed yn y Bencampwriaeth.

Ar ôl gêm gyfartdal (2-2) yn erbyn Brighton nos fercher, dywedodd y chwaraewr canol cae rhyngwladol o’r Alban, Don Cowie, bod yr ystafell newid ar ôl y gêm yn un hyderus wrth wynebu cymal ola’r tymor.

“Rydym yn amlwg yn siomedig ein bod ni wedi ildio gôl mor hwyr yn y gêm, ond nid yw pwynt mor wael â hynny yn erbyn Brighton, sy’n dîm sydd yn pasio’r bêl yn dda,” meddai Cowie.

“Mae wedi cyrraedd y cyfnod hwnnw lle mae’n rhaid i ni ddod oddi ar y maes gyda canlyniad da.  Fel tîm, rydym wedi cael rhediad eithaf gwan yn ddiweddar, felly roeddem yn benderfynol o gael rhyw fath o bwyntiau yn erbyn Brighton, gan gofio nad ydynt wedi colli gêm hyd yma eleni.