Rhys Webb
Mae Rhys Webb wedi ei ddewis yn eilydd i Michael Phillips yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal yfory.

Bydd rhif naw’r Gweilch yn cymryd lle Lloyd Williams – mab y sylwebydd Brynmor Williams – ar y fainc.

Bu’n rhaid i Williams ildio’i le oherwydd anaf, ac nid yw Webb wedi chwarae i’w wlad hyd yma.

 CYMRU: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Michael Phillips; Gethin Jenkins (C), Matthew Rees, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Toby Faletau.

EILYDDION: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Ryan Jones, Rhys Webb, James Hook, Scott Williams.