Bangor – Y Seintiau Newydd
Bydd Bangor yn gobeithio anghofio am y bagliad yn erbyn Castell Nedd yr wythnos diwethaf wrth groesawu’r Seintiau Newydd i Nantporth ar gyfer gêm fyw Sgorio nos Sadwrn.
Roedd y Dinasyddion wedi ennill saith o’r bron yn y gynghrair cyn ymweliad Castell Nedd brynhawn Sadwrn diwethaf ac ail gydio yn y rhediad hwnnw ac anghofio am y gêm yn erbyn yr Eryrod fydd gobaith y pencampwyr cyn ymweliad y Seintiau.
Ond bydd rheolwr Bangor, Nev Powell, yn ymwybodol nad yw ei dîm wedi ennill yn eu tair gêm ddiwethaf os ystyrir y ddau gymal a chwaraewyd yn erbyn y Drenewydd yng Nghwpan y Gynghrair hefyd. A bydd hyd yn oed yn fwy ymwybodol fod ei dîm wedi ildio naw gôl yn y tair gêm hynny.
Gwella ar y record honno fydd y flaenoriaeth yn erbyn y Seintiau siawns ond bydd rhaid iddynt wneud hynny heb eu hamddiffynnwr canol a’u capten, Jamie Brewerton, wedi iddo ef dderbyn cerdyn coch yn y gêm yn erbyn Castell Nedd.
Er bod Bangor ar y brig, hwy sydd â’r record amddiffynnol waethaf o’r pum tîm uchaf a dim ond saith llechen lân y maent wedi eu cadw trwy gydol y tymor.
Does dim problemau o’r fath yn y pen arall gan mai Bangor yw ail brif sgoriwyr y gynghrair y tu ôl i’r Seintiau. A’r blaenwr poblogaidd, Les Davies, yw trydydd prif sgoriwr y gynghrair o ran yr unigolion gyda 13 gôl hyd yn hyn gan gynwys un yn erbyn Castell Nedd yn y gêm ddiwethaf.
Cafodd Bangor fuddugoliaeth dda yn y gêm gynghrair ddiwethaf rhwng y ddau dîm gan guro’r Seintiau o 4-3 yn Neuadd y Parc. Colli’n drwm fu hanes y Dinasyddion serch hynny pan gyfarfu’r ddau dîm ar Ffordd Farrar ym mis Medi ond hon fydd y gêm gyntaf rhyngddynt yn Nantporth.
Byddai buddugoliaeth yn rhoi mantais o bedwar pwynt i Fangor ar frig y tabl gyda chwe gêm ar ôl ond gall y Seintiau neidio drostynt gyda buddugoliaeth.
Mae Sgorio yn dechrau am 17:00 gyda’r gic gyntaf o Nantporth am 17:15.