Bangor – Y Seintiau Newydd

Mae’r Seintiau Newydd yn llygadu brig Uwch Gynghrair Cymru wrth deithio i Nantporth i wynebu Bangor o flaen camerâu Sgorio y penwythnos hwn. Mae tîm Craig Harrison yn yr ail safle bwynt y tu ôl i’r Dinasyddion ar hyn o bryd ond gall hynny i gyd newid yn dilyn y gêm nos Sadwrn.

Mae’r Seintiau ar rediad gwych yn y gynghrair ar hyn o bryd. Maent wedi ennill deg allan o’r un ar ddeg gêm ddiwethaf gan gynnwys tair buddugoliaeth o’r bron dros y mis diwethaf. Daeth y ddiweddaraf o’r rheiny yn erbyn y Bala nos Wener ddiwethaf pan ddaeth y Seintiau yn ôl yn dilyn bod ar ei hôl hi am gyfnodau hir o’r gêm.

Canlyniad da gartref yn erbyn y tîm sy’n bumed yr wythnos diwethaf felly ond mae dwy gêm nesaf y Seintiau oddi cartref yn erbyn eu prif elynion yn y tri uchaf. Ar ôl teithio i Fangor yr wythnos hon maent yn mynd i’r Gnoll i herio Castell Nedd. Dwy gêm bwysig i’r Seintiau ac mae’r cyfarwyddwr pêl droed, Craig Harrison, yn gwybod hynny o’r gorau:

“Mae gennym ddwy gêm enfawr nawr yn erbyn Bangor a Chastell Nedd yr wythnos ganlynol. Fe all y gemau hyn fod yn bwysig iawn yn y ras am y teitl eleni ond ni fydd y cyfan drosodd ar ôl y gemau hyn. Gall pob tîm yn y chwech uchaf gymryd pwyntiau oddi ar ei gilydd.”

Ac er i Fangor golli yn erbyn Castell Nedd yr wythnos diwethaf nid yw Harrison yn disgwyl gêm hawdd yn Nantporth:

“Er i Fangor golli’r wythnos diwethaf roeddynt ar rediad da cyn hynny ac fe fyddan nhw’n awyddus i daro’n ôl, felly rydym yn disgwyl gêm anodd.”

Ond os all ymosodwr y Seintiau, Greg Draper, barhau â’i rediad da o flaen gôl fe fydd gan y Seintiau bob cyfle o gipio’r tri phwynt. Mae’r blaenwr wedi sgorio chwe gôl yn y bum gêm gynghrair ddiwethaf ac ef yw ail brif sgoriwr yr Uwch Gynghrair gyda 17 gôl hyd yma. Does dim dwywaith y bydd yn awyddus i ychwanegu at y cyfanswm hwnnw yn erbyn amddiffyn sydd wedi ildio wyth gôl mewn eu dwy gêm ddiwethaf yn y gynghrair a’r cwpan.

Draper oedd un o’r sgoriwyr pan enillodd y Seintiau o 3-0 ar Ffordd Farrar ym mis Medi ond hwn fydd ymweliad cyntaf y tîm i gartref newydd Bangor, Nantporth.

Byddai buddugoliaeth yn codi’r Seintiau i’r brig a gêm gyfartal yn eu cadw yn y ras. Ond os mai colli fydd eu hanes bydd talcen caled yn eu hwynebu os am gipio’r teitl y tymor hwn.

Mae Sgorio yn dechrau am 17:00 gyda’r gic gyntaf o Nantporth am 17:15.