Mae Dreigiau Casnewydd wedi rhyddhau wyth o’u chwaraewyr o’r garfan ar gyfer y tymor 2012-2013.
Mae Rhys Buckley, Gethin Robinson, Royce Cadman, Rhys Jenkins, Hugo Ellis, James Leadbeater, Tom Riley, Martyn Thomas wedi cael eu hysbysu’n swyddogol gan y rhanbarth na fydd cytundeb estynedig tu hwnt i’r tymor hwn.
‘‘Mae’r penderfyniad i beidio â chynnig cytundebau estynedig i’r chwaraewyr hyn wedi dod yn dilyn trafodaeth gyda’r prif hyfforddwr Darren Edwards a’i dîm hyfforddi yn seiliedig ar gynlluniau busnes y dyfodol,’’ dywedodd cyfarwyddwr rygbi’r Dreigiau Robert Beale.
Mae’r rhanbarth wedi dweud diolch i’r chwaraewr a gafodd eu rhyddhau, am eu hymdrechion wrth gynrychioli’r rhanbarth.