Mike Phillips
Nid yw Mike Phillips erioed wedi colli i’r Eidal, ond mae’n ymwybodol iawn o’r  her sy’n wynebu Cymru ddydd Sadwrn.

A dyna pam nad yw’r mewnwr yn cymryd dim yn ganiataol y penwythnos hwn wrth i Gymru groesawu’r Eidal i Stadiwm y Mileniwm.

‘‘Bydd pobl yn disgwyl i ni gipio llawer o bwyntiau a gwahaniaeth mawr yn y sgôr yn erbyn Yr Eidal, ond maen nhw’n dîm sy’n gwella bob blwyddyn.  Yn ogystal mae ganddyn nhw  flaenwyr mawr a bob tro rydan ni’n chwarae yn eu herbyn, mae’n gêm anodd,’’ dywedodd Phillips.

‘‘Rydym eisiau chwarae’r gêm a thempo cyflym sydd yn allweddol i ni, yn ogystal a diddanu a sgorio llawer o geisiadau,’’ ychwanegodd.

Roedd Phillips yn un o’r sêr pan enillodd Cymru Y Gamp Lawn yn 2008, ac yn sicr mae ei bresenoldeb yn nhîm Cymru yn bwysig.  Y penwythnos yma fe fydd Phillips yn ennill ei gap rhyngwladol rhif 64.

‘‘Ry’n ni’n canolbwyntio ar y gêm nesaf sydd o’m blaenau. Roedd yn wych i ennill y Goron Driphlyg, ond rydym yn deall mai’r gêm yn erbyn Yr Eidal yw’r cam nesaf nawr,’’ ychwanegodd.