Warren Gatland
Mae hyfforddwr tim rygbi Cymru Warren Gatland wedi canmol y gystadleuaeth rhwng y chwaraewyr yng ngharfan Cymru wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn ei gilydd am y safleoedd, wrth baratoi i herio’r Eidal ddydd Sadwrn ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae Gatland yn credu bod y cryfder sydd ganddyn nhw yn y garfan wedi bod yn rhan allweddol yn llwyddiant tîm Cymru yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad.
‘‘Mae yna dipyn o gystadleuaeth i gipio unrhyw safle yn y tîm yma nawr, mae yna lawer o gystadleuaeth – a dyna beth yn union yr ydym eisiau,’’ meddai Gatland.
‘‘Mae’n wych ar gyfer chwaraewyr sydd eisiau dechrau’r gêm, ond maen nhw i gyd yn ymwybodol bod y gystadleuaeth yn un chwyrn. Fel hyfforddwr, mae’n braf i fod yn rhan o dîm sy’n gweithio’n galed ac yn cystadlu fel hyn. Maen nhw yn glod i Gymru ac i rygbi Cymru,’’ ychwanegodd.
‘‘Rydym wedi pwysleisio i’r garfan nad dim ond y 22 chwaraewr sydd wedi cael eu dewis sy’n bwysig, ond sut mae’r lleill yn ymateb ac yn cefnogi’r rhai fydd yn chwarae sy’n bwysig hefyd,’’ dywedoddGatland.
Ar ôl i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad orffen, fe fydd sialensau newydd yn wynebu Cymru.
‘‘Mae yna lawer i anelu ato yn ogystal fel y gêm brawf yn erbyn Y Barbariaid, cyfres o dair prawf yn erbyn Awstralia a gêm yn erbyn y Brumbies,’’ meddai Gatland.