Mathias Pogba
Gohebydd Clwb Pel-droed Wrecsam Huw Ifor yn canmol y chwaraewyr am eu perfformiad gwych yn erbyn Luton…

Wrecsam 2 Luton 0

Wedi buddugoliaeth arall i dîm Fleetwood ddydd Mawrth gyda chwaraewr y gêm yn cael ei roi i’w deuddegfed chwaraewr mewn du, roeddwn yn ansicr a fuasen ni’n gallu dal i fyny a nhw.

Doedd dim angen poeni oherwydd yr oedd perfformiad Wrecsam neithiwr yn ffantastig. Wedi i’w frawd wylltio Alex Ferguson yn ofnadwy ddydd Llun yn arwyddo i Juventus, fe roddodd Mathias Pogba berfformiad anhygoel i ni neithiwr, ac wedi 6 munud yr oedd ei groesiad ef wedi ei benio i gefn y rhwyd gan Danny Wright.

Ar gychwyn y tymor roedd cefnogwyr Luton yn clochdar y byddan nhw yn ennill yr adran ar garlam gyda Fleetwood a’u harian ymhell tu ôl a chlwb bach Wrecsam yn methu’r gemau ail gyfle. Daeth y syniadau hyn i ben wedi i ni eu curo yn Kennilworth Road a chwalwyd y meddylfryd hwn neithiwr gan ein bod ben a chynffon yn well na nhw.

Wedi 37 munud neithiwr fe sgoriodd y capten Keates i wneud yn siŵr o’r pwyntiau a rhoi Wrecsam  5 pwynt y tu  ôl i Fleetwood. Maen nhw yn chwarae oddi cartref yn erbyn Kidderminster ddydd Gwener a gobeithio y gall y rheini eu curo cyn i ni chwarae Barrow ddydd Sadwrn.

Fel cefnogwr brwd o bêl droed hoffwn ddweud pa mor siomedig ydw i fod S4C wedi haneru  hyd y rhaglen Sgorio ac ail chwarae Heno (un o’r rhaglenni gwaethaf erioed yn hanes teledu) yn ei lle. Mae Sgorio wedi cael ei gam-drin dros y blynyddoedd ac wedi dal ei phen fel un o raglenni gorau’r sianel gyda safon dda i’r cynhyrchiad, graen sydd ymhell o’r shambls sydd ar arlwy newydd y sianel. Diwedd rant!