Brighton 2–2 Caerdydd

Gêm gyfartal a gafodd Caerdydd yn erbyn Brighton yn Yr Amex nos Fercher er iddynt fod ar y blaen ddwywaith. Rhoddodd Joe Mason a Peter Wittingham yr Adar Gleision ar y blaen ar ddau achlysur gwahanol yn yr ail hanner ond rhwydodd y Cymro, Sam Vokes, yn hwyr i achub pwynt i Brighton.

Kenny Miller a gafodd gyfle gorau Caerdydd yn y 45 munud cyntaf ond arbedodd gôl-geidwad Brighton, Peter Brezovan, ei ergyd hanner ffordd trwy’r hanner.

Ond roedd y Cymry ar y blaen wedi 12 munud o’r ail hanner wedi i Mason guro Brezovan yn y cwrt chwech.

Ymatebodd rheolwr Brighton, Gus Poyet, trwy yrru ymosodwr Cymru, Sam Vokes, ar y cae fel eilydd. A chreodd y chwaraewr sydd ar fenthyg o Wolves argraff yn syth gan orfodi arbediad gan David Marshall ar yr awr.

Roedd Caerdydd o dan bwysau yn awr a doedd fawr o syndod gweld Ashley Barnes yn unioni’r sgôr i Brighton gyda gôl wedi 72 munud.

Dim ond am ddau funud yr oedd y tîm cartref yn gyfartal serch hynny cyn i Wittingham roi’r Adar Gleision yn ôl ar y blaen. Derbyniodd y bêl ar ochr y cwrt cosbi yn dilyn dyrniad Brzovan, cyn ergydio heibio’r golwr i’r gornel uchaf.

Roedd gan Gaerdydd ychydig dros chwarter awr i gadw gafael ar y tri phwynt felly a bu bron iddynt wneud hynny ond unionodd Brighton am yr eildro funud o’r diwedd. Daeth Barnes o hyd i Vokes yn y cwrt cosbi a rhwydodd yntau i achub pwynt i’w dîm.

Mae Caerdydd yn aros yn yr wythfed safle ar ôl colli’r cyfle i neidio dros Brighton ac yn ôl i’r safleoedd ail gyfle.