Wrecsam 2–0 Luton

Llwyddodd Wrecsam i gadw’r pwysau ar Fleetwood ar frig Uwch Gynghrair y Blue Square gyda buddugoliaeth yn erbyn Luton ar y Cae Ras nos Fercher. Roedd goliau hanner cyntaf Danny Wright a Dean Keates yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i’r Dreigiau.

Dim ond chwe munud oedd ar y cloc pan sgoriodd Wright y gôl agoriadol gyda’i ben wedi i Mathias Pogba ddod o hyd iddo yn y cwrt cosbi.

Bu rhaid i Joslain Mayebi fod ar flaenau’i draed yn y pen arall i atal Jake Howells bedwar munud yn ddiweddarach ond Wrecsam oedd y tîm gorau.

Daeth Jake Speight yn agos gydag ergyd wedi 35 munud ac felly hefyd Wright gyda pheniad funud yn ddiweddarach ond fe ddaeth yr ail i’r tîm cartref chwe munud cyn yr egwyl.

A gôl dda oedd hi hefyd wrth i Keates ergydio’n gywir i gornel uchaf y rhwyd o du allan i’r cwrt cosbi.

2-0 i Wrecsam ac felly yr arhosodd hi tan yr egwyl. Cafodd Speight gyfle i ychwanegu trydedd yn gynnar yn yr ail hanner ond llwyddodd Mark Tyler yn y gôl i Luton i’w atal.

Ond roedd dwy yn hen ddigon i’r Dreigiau a’r unig ddigwyddiad arall o bwys oedd cerdyn coch i eilydd yr ymwelwyr, John Kissock, yn yr amser a ganiateir am anafiadau.

Mae Wrecsam yn aros yn ail yn nhabl y Blue Square er gwaethaf y fuddugoliaeth ond mae’r tri phwynt yn cau’r bwlch rhyngddynt a Fleetwood ar y brig i bum pwynt.