Casnewydd 3–4 Braintree

Colli fu hanes Casnewydd mewn gêm lawn goliuau yn Uwch Gynghrair y Blue Square nos Fawrth. Braintree oedd yr ymwelwyr i Barc Sbytu ac aethant oddi yno gyda’r tri phwynt ar ôl curo deg dyn Casnewydd o 4-3.

Roedd talcen caled yn wynebu’r tîm cartref wedi dim ond wyth munud wedi i Lee Minshull dderbyn cerdyn coch am drosedd ddrwg ar Brad Quinton.

Doedd fawr o syndod felly gweld Britt Assombalonga yn rhoi’r ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner.

Ond er clod i’r tîm o Gymru fe ddaethant yn ôl i’r gêm toc cyn yr hanner awr pan unionodd Sam Foley’r sgôr gydag ergyd dda i’r gornel uchaf o ochr y cwrt cosbi.

Roedd Braintree yn ôl ar y blaen dri munud yn ddiweddarach diolch i Sean Marks ac roedd y tri phwynt yn ymddangos yn sâff ddeg munud cyn yr egwyl wedi i Ben wright rwydo trydedd yr ymwelwyr.

Ond wnaeth deg dyn Justin Edinburgh ddim rhoi’r ffidl yn y to ac roeddynt yn ôl yn y gêm eto ar yr egwyl wedi i Gary Warren benio croesiad Foley i gefn y rhwyd funud cyn hanner amser.

Sgoriodd Assom balonga ei ail ef a phedwaredd Braintree wedi dim ond pedwar munud o’r ail hanner ac er i Gasnewydd frwydro’n ddewr am weddill y gêm gôl gysur yn unig oedd ymdrech Ryan Charles yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

4-3 y sgôr terfynol felly o blaid yr ymwelwyr a Chasnewydd yn colli cyfle i godi yn y tabl. Maent yn aros yn yr ail safle ar bymtheg yn nhabl y Blue Square.

Roedd canlyniad anffodus i’r tîm arall o Gymru yn y Gyngres hefyd nos Fawrth wrth i Fleetwood guro Grimsby gan agor wyth pwynt o fwlch rhyngthynt a Wrecsam yn yr ail safle.