Sam Warburton
Ni fydd Sam Warburton yn chwarae i Gymru yn erbyn yr Eidal o achos anaf i’w ben-glin.

Cyhoeddodd Warren Gatland mai Gethin Jenkins fydd yn gapten  yn absenoldeb Warburton, tra bydd Justin Tipuric yn cymryd lle Warburton yng nghrys rhif 7, gan ddechrau dros ei wlad am y tro cyntaf.

Mae Jamie Roberts wedi ei gynnwys yn y tîm ar ôl gwella’n gyflym o anaf i’w ben-glin, tra bod Luke Charteris wedi ei gynnwys ar y fainc ac yn gobeithio chwarae ei gêm gyntaf dros Gymru ers Cwpan y Byd.

Mae cyn-gapten Cymru, Matthew Rees, wedi gwella  o anaf ac yn dechrau fel bachwr i greu rheng flaen profiadol iawn.

‘Profiadol’

“Yn sgil anafiadau ‘dyn ni ddim wedi gallu dewis y rheng flaen hon a chwaraeodd i’r Llewod yn 2009 yn aml, ac er ein bod ni’n fwy na hapus gyda’r gwaith mae Ken (Owens) wedi’i wneud, ry’n ni’n rhoi cyfle i Matthew gyfrannu wrth i’r gystadleuaeth ddod i’w hanterth,” meddai prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland.

“Bydd yr Eidal yn gobeithio’n bod ni’n hunanfodlon gydag un llygad ar gêm Ffrainc, ond bydd dim llai na buddugoliaeth yn dderbyniol i’r tim yma ddydd Sadwrn, na chwaith yn dderbyniol i’r genedl fydd y tu ôl i ni. Mae’r chwaraewyr â’u bryd ar fod yn hollol ddidostur,” ychwanegodd Warren Gatland.

Dyma’r tîm yn llawn:

Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins (Capten), Matthew Rees, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ian Evans, Dan Lydiate, Justin Tipuric, Toby Faletau

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Luke Charteris, Ryan Jones, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams