Mae tîm pel-droed merched Cymru wedi cael llwyddiant yng Nghwpan yr Algarve, gan guro Hwngari o 2-1 diolch i ddwy gôl gan Helen Lander.
Mae Cymru wedi gorffen ar frig ffrwd C y cwpan, a byddan nhw nawr yn cwrdd â Norwy ddydd Mercher er mwyn ceisio gorffen yn seithfed yn y cwpan, sef y safle uchaf oedd yn bosib iddyn nhw gyrraedd. Norwy orffennodd ar waelod ffrwd B.
Yn gynharach yn y gystadleuaeth curodd merched Cymru Bortiwgal o 1-0, a chawson nhw gem gyfartal 0-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
Tîm Cymru yn erbyn Hwngari oedd:
1 Rhian Nokes
2 Loren Dykes
3 Sophie Ingle
4 Kylie Davies
5 Jayne Ludlow (c)
8 Michelle Green
9 Helen Lander
10 Gwennan Harries
11 Jessica Fishlock
14 Hannah Keryakoplis
16 Hayley Ladd