Sam Warburton - seren y gêm heb os
Aled Price sy’n asesu perfformiadau unigol chwaraewyr Cymru yn erbyn Lloegr.

Leigh Halfpenny (8) – Chwarae amddiffynnol arwrol, gyda’r dacl ar eiliad olaf ar Strettle yn crynhoi hynny. Cicio at y pyst dibynadwy hefyd.

Alex Cuthbert (5) – Methu meddwl am enghraifft lle cafodd yr asgellwr gyfle i redeg efo’r bêl. Tawel iawn.

Jonathan Davies (7) – Croesi’r llinell fantais ambell waith a gwaith digon cadarn yn amddiffynnol.

Jamie Roberts (5) – Ambell i rediad pwerus ond Cymru’n gofyn gormod ohono. Cael ei eilyddio ar hanner amser ar ôl anaf.

George North (8) – Bron a sgorio o fewn dwy funud. Bygythiad cyson.

Rhys Priestland (6) – Gêm siomedig i faswr y Sgarlets. Cicio ddim lan i safon, Farrell wedi cael y gorau ohono.

Mike Phillips (6) – Mewnwr Cymru’n rhy araf ac yn rhy amhendant ar brydiau. Tueddu i arafu ymosodiadau Cymru;

Gethin Jenkins (7) – Sgrymio cadarn ac unwaith yn rhagor yn ddibynadwy o amgylch y parc yn amddiffynnol.

Ken Owens (7) – Creodd argraff wrth ddechrau ei gêm gyntaf. Lein yn edrych yn fwy dibynadwy gydag ef yn taflu. Cynnig ei hun yn gyson yn yr ymosod.

Adam Jones (8) – Sgrymio’n bwerus, oedd yn ffactor amlwg wrth i Gymru gael y gorau yn y sgrym.

Alun-Wyn Jones (6) – Dim ond yn para 50 munud ar ôl dod nôl o anaf. Cymerodd Ryan Jones ei le a chwarae’r well nag o.

Ian Evans (7) – Gêm digon cadarn. Opsiwn diogel yn y lein.

Dan Lydiate (8) – Unwaith yn rhagor yng nghanol popeth da y gwnaeth Cymru’n amddiffynnol. Mae ei ‘line speed’ yn rhyfeddol. Cario’r bêl yn bwerus hefyd.

Sam Warburton (9) – Llawn haeddu cael ei enwi’n Seren y Gêm heb os nac oni bai. Gwych yn ardal y dacl ac yn amddiffynnol. Dim ond jyst tu ôl i Pocock a McCaw fel y blaenasgellwr gorau yn y byd.

Toby Faletau (7) – Gêm eithaf tawel i wythwr y Dreigiau. Dibynadwy o’r ail ddechrau, ac mae digon o gyflymder ganddo i redeg yn glir o bobol.