Aironi 9–10 Dreigiau
Bu rhaid i’r Dreigiau ddibynnu ar gais cosb hwyr i ennill yn erbyn Aironi yn y Stadio Luigi Zaffanella brynhawn Sul. Hon oedd y frwydr rhwng y ddau dîm ar waelod y RaboDirect Pro12 a gydag ychydig funudau ar ôl roedd hi’n ymddangos fod y rhanbarth o Gymru am golli. Ond yna, dyfarnwyd cais cosb i’r ymwelwyr yn y munudau olaf a throsodd Lewis Robling y ddau bwynt ychwanegol i ddwyn y fuddugoliaeth i’w dîm.
Rhoddodd Jason Tovey y Dreigiau ar y blaen wedi 14 munud gyda chic gosb ond unionodd maswr y tîm cartref, Naas Oliver, y sgôr gyda chic gosb yn eiliadau olaf yr hanner wedi i Anitele’s Tuilagi gael ei anfon i’r gell gosb i’r Dreigiau.
Ac felly yr arhosodd hi tan 20 munud o’r diwedd pan giciodd Oliver dri phwynt arall i roi’r Eidalwyr ar y blaen. Ac ymestynnodd y maswr y fantais i chwe phwynt gyda chic gosb arall wedi 63 munud.
Roedd hi’n ymddangos fod y tîm cartref yn mynd i ddal eu gafael ar fuddugoliaeth brin ond daethant o dan bwysau eithriadol yn y munudau olaf wrth i’r rhanbarth o Gymru reoli cyfres o sgrymiau pum medr. Cafodd yr eilydd o fachwr, Fabio Ongaro, ei anfon i’r gell gosb ac o fewn munud fe redodd y dyfarnwr o dan y pyst i ddynodi cais cosb i’r Cymry.
Llwyddodd yr eilydd faswr, Robling, gyda’r trosiad hawdd ond pwysig i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Dreigiau. Ac mae’r fuddugoliaeth honno yn codi’r Dreigiau uwch ben Caeredin a Chonnacht i’r nawfed safle yn nhabl y RaboDirect Pro12.